Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gofyn i unrhyw un sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sy’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn y gwanwyn i dderbyn eu cynnig erbyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener, 30 Mehefin 2023.
Mae pobl 75 oed neu’n hŷn, preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn a’r rhai 5 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn.
Ffoniwch 0300 303 8322 a dewiswch opsiwn 1 neu anfonwch e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk cyn gynted â phosibl i drefnu apwyntiad.
Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae COVID-19 yn parhau i fod yn fwy difrifol mewn pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol.
“Mae’n bwysig cael eich pigiad atgyfnerthu oherwydd, fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau gostwng dros amser. Bydd y pigiad atgyfnerthu yn helpu i’ch amddiffyn am gyfnod hirach. Bydd hefyd yn helpu i leihau’r risg y bydd angen i chi fynd i’r ysbyty oherwydd haint COVID-19.”
Bydd cynnig y cwrs brechlyn sylfaenol cyffredinol dau ddos cychwynnol, a gynigir o fis Rhagfyr 2020 i’r holl boblogaeth dros 5 oed, hefyd yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023.
I drefnu apwyntiad, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cymhwysedd i gael brechlyn COVID-19, ffoniwch Hyb Cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 303 8322 neu anfonwch e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle