Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Trechu Tlodi

0
260
HWB Yma i helpu

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwybod bod yr argyfwng costau byw presennol yn cael effaith fawr ar drigolion y sir, ac mae hefyd yn cydnabod effaith hirdymor tlodi am genedlaethau.

O ganlyniad, mae’r Cyngor yn awyddus i fynd i’r afael â gwir achosion tlodi ac i ganfod ffyrdd o helpu pobl i oresgyn tlodi.

Heddiw, 19 Mehefin, mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo Cynllun Trechu Tlodi yr Awdurdod.

Fel Cyngor rydym yn sylweddoli na allwn ddatrys tlodi ein hunain, gan fod angen rhoi sylw i nifer o’r ffactorau sy’n cyfrannu at y sefyllfa, ar lefel Gymreig a Phrydeinig. Fodd bynnag mae gennym rôl flaenllaw o ran cefnogi ein trigolion a’n cymunedau i helpu eu hunain, trwy waredu’r hyn sy’n eu rhwystro rhag cael cymorth, a grymuso pobl.

Gyda hyn mewn golwg, mae mynd i’r afael â thlodi yn flaenoriaeth thematig i’r Cyngor fel rhan o’i Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-27, a bydd yn allweddol o ran gwneud cynnydd mewn perthynas â’n hamcan llesiant i alluogi ein pobl i fyw a heneiddio’n dda. Yn ogystal, mae taclo tlodi ac effaith tlodi yn un o amcanion llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, ac fel Cyngor byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill ar feysydd lle mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd, er mwyn gwneud cynnydd ar yr amcan hwn.

Mae’r Cynllun yn ymateb i weithgarwch Cyngor Sir Caerfyrddin dros y 12 mis nesaf, ac yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae hefyd yn nodi meysydd datblygu allweddol a fydd yn ein galluogi i fireinio ein cynllun tymor hwy er mwyn mynd i’r afael ag achosion ehangach tlodi.

Yn ystod y 12 mis nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Strategaeth Genedlaethol ar Dlodi Plant, ac wedi i hynny ddigwydd, byddwn yn adolygu ein dull gweithredu ac yn datblygu ymhellach ein cynllun trechu tlodi tymor canolig/hir.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi: “Mae’r Cynllun Trechu Tlodi hwn yn ddogfen bwysig i’r Cyngor wrth i ni fynd ati i geisio lleihau peth o’r pwysau mae tlodi’n ei achosi i bobl a chymunedau lleol. Mae’n siomedig bod yn rhaid i ni baratoi cynllun o’r fath, ond y gwir amdani yw bod mwyfwy o’n trigolion a’n cymunedau bellach yn wynebu heriau o achos tlodi. O ganlyniad rydym ni fel Cyngor, gan weithio gyda’n partneriaid, yn awyddus i helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn.

“Rwy’ am gydnabod mewnbwn a chefnogaeth y Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi, sef panel o aelodau etholedig trawsbleidiol, sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r cynllun hwn mewn modd ystyriol, adeiladol ac ystyrlon. Mae’r cyfraniad hwn i’w groesawu’n fawr wrth i ni gyd wneud ein gorau i gefnogi trigolion a chymunedau Sir Gâr.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle