Nyrsys canser Bronglais yn cael syrpreis mewn cyfres newydd ar S4C

0
202
Rhian and Eirian

Mae dwy o nyrsys canser Ysbyty Bronglais i’w gweld yn cael syrpreis mewn pennod o gyfres newydd S4C “Y ‘Sgubor Flodau” sy’n cael ei darlledu am 9pm nos Fawrth 27 Mehefin.

Cyflwynwyd trefniant hyfryd o flodau i’r ddwy, a ymunodd y llynedd ar gyfer Her Taith Gerdded Arfordirol 85 milltir o hyd i godi arian at Apêl Cemo Bronglais, i ddathlu eu codi arian – rhywbeth nad oeddent yn ei ddisgwyl!

Cododd yr Arbenigwyr Nyrsio Rhian ac Eirian a’u cefnogwyr £25,000 i’r Apêl i ddatblygu uned ddydd cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais drwy wneud y daith gerdded arfordirol enfawr. Ymunodd dros 70 o ffrindiau, aelodau teulu, cleifion a chydweithwyr â nhw ar gyfer eu cymal olaf.

Cynhyrchir “Y ‘Sgubor Flodau” gan gwmni cynhyrchu annibynnol o Gaerdydd, Wildflame Productions. Bob wythnos, mae pobl o bob rhan o Gymru yn ymweld â’r Ysgubor Flodau i enwebu unigolyn neu grŵp haeddiannol. Yna mae’r tîm talentog yn creu campweithiau blodeuog ar gyfer y rhai sy’n haeddu ychydig o liw a llawenydd yn eu bywydau.

Ymwelodd Bridget, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, â’r Ysgubor Flodau i enwebu’r ddwy nyrs canser arbenigol. Syniad Bridget oedd creu rhywbeth sy’n adlewyrchu Llwybr yr Arfordir, ac aeth y gwerthwyr blodau Donald a Wendy ati i greu dau osodiad trawiadol gyda thema arfordirol.

“Pan nad yw geiriau’n ddigon, mae blodau’n llenwi’r bwlch,” meddai un o’r tîm. “Roeddem yn falch iawn o greu teyrnged mor arbennig i’r nyrsys gwych ac ymroddedig hyn ym Mronglais.”

 Bydd “Y ‘Sgubor Flodau” yn cael ei darlledu ar S4C am 9pm nos Fawrth 27 Mehefin. Mae’r gyfres hefyd ar gael gydag isdeitlau Saesneg ar S4C Clic a BBC iPlayer. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda, ewch i: hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle