GWR yn dathlu 75 o flynyddoedd o’r GIG drwy enwi trên ar ôl Aneurin Bevan

0
347

Great Western Railway

  • Cwmni Great Western Railway yn nodi pen-blwydd y GIG yn 75 oed drwy enwi trên arbennig
  • Aneira Thomas, y baban cyntaf a anwyd yn y GIG, yn dadorchuddio’r trên â’i enw newydd yng Nghasnewydd
  • Y trên yn galw yn Swindon i ddathlu rôl Cronfa Feddygol GWR yn y gwaith o lunio’r GIG
  • Y trên yn mynd ymlaen i Lundain Paddington lle bydd staff o ysbyty St Mary ac Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Imperial College yn cwrdd ag ef

Heddiw, dadorchuddiwyd trên Great Western Railway (GWR) arbennig iawn gan Aneira Thomas, y baban cyntaf a anwyd yn y GIG, gan ddathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd yn 75 oed.

Enwodd yr awdur o Gymru’r trên Intercity Express 800005 ar ôl Aneurin Bevan, y gweinidog iechyd fu’n gyfrifol am lansio’r GIG yn 1948.

Ganwyd Aneira am un munud wedi hanner nos ar 5 Gorffennaf 1948, felly hi oedd y baban cyntaf i gael ei eni yn y GIG. I ddathlu, enwodd ei rhieni hi ar ôl y gwleidydd o Gymru.

GWR NHS NAMING 024

Heddiw, teithiodd o’i chartref yn Abertawe i’r seremoni enwi trên yng Nghasnewydd, yr orsaf agosaf i etholaeth Bevan, sef Glyn Ebwy, a’i fan geni yn Nhredegar, y mae trenau GWR yn galw ynddi.

Ar ôl y seremoni, teithiodd trên Aneurin Bevan i Lundain Paddington, gan alw yn Swindon er mwyn cydnabod y rôl a chwaraeodd diwydiant rheilffyrdd y dref yn y gwaith o sefydlu’r GIG.

Sefydlwyd Cymdeithas Cronfa Feddygol (MFS) Great Western Railway yn 1847 drwy ddefnyddio arian a godwyd o ddidyniadau uniongyrchol o gyflogau cydweithwyr yng ngweithfeydd GWR, Swindon.

SMG 7782

Dros y ganrif nesaf, datblygodd y MFS gyfleusterau diri – o faddonau ymolchi i ddoctoriaid a lleoedd deintydd. Ar ôl ymweld â’r cyfleusterau yn Swindon, mae’n debyg i Aneurin Bevan ddweud: “Dyna le’r oedd e, gwasanaeth iechyd cyflawn. Y cyfan yr oedd angen inni ei wneud oedd ei ehangu i gynnwys y wlad gyfan!”

Dywedodd Aneira, a dreuliodd ei gyrfa’n gweithio yn y GIG fel nyrs iechyd meddwl, ac awdur y llyfr hynod boblogaidd Hold on Edna:

“Mae’n fraint gweld GWR yn enwi trên ar ôl Aneurin Bevan i ddathlu pen-blwydd ein GIG yn 75 oed. Pa ganmoliaeth well i’r etifeddiaeth a gawsom gan sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ogystal â Chronfa Feddygol GWR yn Swindon, a chwaraeodd ran flaenllaw yn y broses o roi cychwyn i’r gwasanaeth.

“Bydd y trên anhygoel hwn yn ein hatgoffa o’r dyn ei hun ac o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sgiliau, gofal a thosturi y mae’n eu cynnig inni. Pen-blwydd Hapus yn 75 oed i’r GIG, a diolch i GWR.”

 

GWR NHS NAMING 049Dywedodd Eluned Morgan AoS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:

“Mae ein GIG yn drysor i bawb yng Nghymru ac rydym yn arbennig o falch mai Cymro oedd ei sylfaenydd. Felly mae enwi’r trên hwn ar ôl Aneurin Bevan yn deyrnged deilwng i’r GIG ac yn ffordd arbennig o ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed yng Nghymru.”

IMG-20230704-WA0012Dywedodd Janice Sigsworth, Prif Nyrs Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Imperial College: 

“Mae’r GIG yn un o gyflawniadau mwyaf balch y DU, ac mae’n bleser gennyf ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed gyda’n cymdogion yng ngorsaf Paddington a GWR.

“Cafwyd cysylltiad agos rhwng yr orsaf ac ysbyty St Mary’s ers mwy na chanrif a hanner, cyn sefydlu’r GIG ei hun. Mae’r cysylltiadau trafnidiaeth eang yn hollbwysig i’n cleifion a’n staff ac yn un o’r rhesymau pam yr ydym ni wedi datblygu’n ddarparwr blaengar o ofal clinigol, addysg ac ymchwil – ac yn gallu chwarae rôl mor bwysig o ran cefnogi iechyd a llesiant ein cymuned leol.

“Dim ond cryfhau a wnaiff y cysylltiad hwn yn y dyfodol, wrth inni ddatblygu St Mary’s yn ysbyty mwy o faint, a Paddington yn dod yn ganolfan arweiniol yn y gwyddorau bywyd.”

Dywedodd Joe Graham, Cyfarwyddwr Sicrwydd Busnes GWR:

“Mae’n fraint inni enwi’r trên Intercity Express hwn ar ôl Aneurin ‘Nye’ Bevan ac i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed – ynghyd a’r cysylltiad unigryw rhyngddo a Great Western.

“Yn ogystal â’n cysylltiad â Chronfa Feddygol Great Western, mae gennym hanes hir o enwi trenau ar ôl pobl Great Western, arwyr y presennol a’r gorffennol ledled ein rhwydwaith.

“Roedd hefyd yn fraint a hanner i gael croesawu Aneira Thomas i orsaf Casnewydd ac i ddathlu ei lle unigryw mewn hanes, fel y baban cyntaf a anwyd yn y GIG.”

Dywedodd Lisa Cleminson, Cyfarwyddwr Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru:

“Roeddem wrth ein boddau i gefnogi’r seremoni hon i enwi trên ac i groesawu gwesteion i orsaf Casnewydd. Mae Aneurin Bevan yn berson mor bwysig yn hanes Cymru. Bydd pawb yn y diwydiant rheilffyrdd yn falch i weld trên Aneurin Bevan yn aros mewn gorsafoedd ar hyd prif linell De Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle