Cynyddodd nifer y cwynion yn erbyn Aelodau’r Senedd yn 2022-23 61% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yn ôl adroddiad blynyddol Comisiynydd Safonau’r Senedd a gyhoeddwyd heddiw.
Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae’n dal i fod yr ail isaf o ran nifer o gwynion yn y pedair blynedd diwethaf.
O’r 71 o gwynion a ddaeth i law rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, roedd 31 yn ymwneud â materion nad oedd gan y Comisiynydd bŵer i ymchwilio iddynt, tra bod 27 yn ymwneud â methiant Aelodau i hysbysu am fân-newidiadau i’w buddiannau cofrestredig o fewn y cyfnod o bedair wythnos a ganiateir.
Roedd wyth o’r cwynion a oedd yn weddill yn ymwneud ag ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol, tra bod y pump arall yn ymwneud â chamddefnyddio adnoddau’r Senedd.
Gostyngodd canran y cwynion annerbyniadwy a ddaeth i law o 80 yn 2021-22, i 49. Mae’n debygol bod hyn yn rhannol oherwydd cyflwyno canllawiau newydd ym mis Gorffennaf 2022 ar y broses gwyno, sy’n haws eu defnyddio.
Roedd 25 o’r 30 o gwynion derbyniadwy a gafwyd yn ymwneud â mân-achosion o dorri amodau. Ym mhob achos, gan fod yr Aelod wedi cyfaddef y toriad, wedi ymddiheuro amdano ac wedi ei gywiro lle bo modd, cytunodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ag argymhelliad y Comisiynydd na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.
Cyflwynwyd adroddiadau am ymchwiliadau i dair o’r pum cwyn arall derbyniadwy i’r Pwyllgor. Yn achos dwy o’r cwynion, ym marn y Comisiynydd ni fu achos o dorri’r Cod Ymddygiad ac fe dorrwyd y Cod yn y llall, yn ei farn ef. Cytunodd y Pwyllgor â’r tair barn.
Mae’r ymchwiliadau a oedd yn mynd rhagddynt i’r ddwy gŵyn ar 1 Ebrill 2023 bellach wedi’u cwblhau, a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i’w hystyried a phenderfynu arnynt.
Am ail flwyddyn, ni chafwyd unrhyw gwynion am Aelod gan Aelod arall mewn ymgais i gael y trechaf yn wleidyddol.
Yn ôl Comisiynydd Safonau’r Senedd, Douglas Bain; “Fel y mae’r ffigurau’n dangos, mae ymddygiad pob Aelod o’r Senedd, mwy neu lai, yn parhau i fod o safon uchel.
“Er bod nifer y cwynion wedi cynyddu, heblaw am doriadau cymharol fach, canfuwyd mai dim ond un Aelod wnaeth dorri’r Cod Ymddygiad.
“Dyma groesawu’r ffaith unwaith eto na chafwyd unrhyw gwynion gan Aelod yn erbyn Aelod arall. Rwyf o’r farn mai’r hyn a berodd hynny yw dealltwriaeth fwy aeddfed gan yr Aelodau, mai bwriad y broses gwyno yw diogelu’r safonau ymddygiad uchel y dylent oll anelu atynt, ac na ddylid ei chamddefnyddio mewn ymgais i gael y trechaf ar blaid wleidyddol arall.”
Prif ddyletswydd y Comisiynydd yw ymchwilio i gwynion bod Aelod wedi torri darpariaethau’r Cod Ymddygiad neu rai dogfennau eraill, a llunio adroddiadau yn eu cylch. Yn ôl y gyfraith mae’r Comisiynydd wedi’i wahardd rhag rhoi gwybodaeth am unrhyw gŵyn benodol.
Mae’r gost o redeg swyddfa’r Comisiynydd yn dibynnu ar nifer a chymhlethdod y cwynion a ddaw i law, a’r ymchwiliadau a gynhelir. Roedd y cynnydd o 11.3% mewn gwariant yn 2022 -23 i’w briodoli bron yn gyfan gwbl i’r gost o ymchwilio i un gŵyn.
Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am waith arall a wnaed gan y Comisiynydd, ac ystadegau sy’n ymwneud â chwynion am y pum mlynedd diwethaf.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle