Mae St John Ambulance Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad tri ymddiriedolwr newydd i gefnogi’r elusen i gyflawni ei chenhadaeth i wella iechyd a lles cymunedau yng Nghymru

0
251
Gillian Knight, Rhys Jenkins and Professor Jean White CBE MStJ

Bydd Gillian Knight, Rhys Jenkins a’r Athro Jean White CBE MStJ yn gwasanaethu am dymor o dair blynedd, ac ochr yn ochr â gweddill y Bwrdd, byddant yn gyfrifol am sicrhau bod St John Ambulance Cymru yn cael ei lywodraethu’n briodol, yn sefydlog yn ariannol ac yn defnyddio adnoddau’n briodol.

Mae Gillian Knight yn Swyddog Nyrsio yn Swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio (OCNO), Llywodraeth Cymru. Mae Gill wedi gweithio yn y GIG yng Nghymru ers dros 27 mlynedd ar ôl symud i Gymru o Iwerddon enedigol. Mae hi bellach yn cefnogi’r Prif Swyddog Nyrsio gan ddarparu cyngor proffesiynol ar y gweithlu, rheoleiddio a pholisi proffesiynol ehangach. Mae hi’n mwynhau rhedeg, beicio, ac mae’n ddeifiwr môr dwfn ardystiedig PADI.

Mae Rhys Jenkins wedi bod yn Fargyfreithiwr yn Siambrau Colleton ers 2019, gan ganolbwyntio ar Gyfraith Teulu a Chyfraith Sifil ar draws y De Orllewin. Mae gan Rhys brofiad o fod yn Ymddiriedolwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gyda chefndir mewn addysg uwch, sicrhau ansawdd a myfyrwyr, mae Rhys yn gobeithio cynorthwyo gyda datblygiad parhaus diwylliant dysgu sy’n cofleidio amrywiaeth yn St John Ambulance Cymru.

Mae’r Athro Jean White CBE MStJ wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus ym myd nyrsio, gyda phrofiad o weithio fel nyrs theatr, academydd nyrsio, rheolydd, a chynghorydd proffesiynol i lywodraethau’r DU ac Ewrop a Sefydliad Iechyd y Byd. Hi oedd Prif Swyddog Nyrsio Cymru rhwng 2010 a 2021. Ers ymddeol o’r gwasanaeth sifil, mae hi bellach yn ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gwirfoddol a llywodraethu ac ar hyn o bryd hi yw Uchel Siryf Sir Morgannwg Ganol.

Dywedodd Paul Griffiths, Prior Cymru a Chadeirydd y Bwrdd,

 “Mae bod yn ymddiriedolwr yn St John Ambulance Cymru yn ymwneud â bod yn rhan o elusen Gymreig uchel ei pharch sydd wedi bod yn ymroddedig i achub bywydau a thrin y sâl a’r anafedig yn ein cymunedau ers dros gan mlynedd.

 Mae’n bleser gennym groesawu Gillian, Rhys, a Jean i ymuno â ni wrth inni edrych tua’r dyfodol a dechrau cyflawni’r ymrwymiadau a nodwyd gennym yn ein Strategaeth 2025.

 Rwy’n hyderus y byddant yn eiriolwyr cryf dros yr elusen a’n gwaith ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda nhw i gyflawni ein gweledigaeth o gymorth cyntaf i bawb, unrhyw bryd, unrhyw le.”

Gallwch ddarganfod mwy am ein Hymddiriedolwyr yma.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle