Cit newydd ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Glangwili, diolch i roddion

0
277
Yn y llun chwith-dde: Rhian Cussons, Myfyriwr; Mari Llywellyn-Jones, Nyrs Gofrestredig; Sophie Leeds, Myfyriwr

Mae rhoddion lleol wedi galluogi Elusennau Iechyd Hywel Dda i brynu darn gwych o git ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili i helpu i leoli gwythiennau mewn babanod.

Mae dyfais Astodia yn defnyddio golau isgoch i amlygu canol y wythïen, gan ddangos i’r meddygon a’r nyrsys ble i osod a chyfarwyddo’r nodwydd wrth gymryd gwaed neu osod caniwla.

Dywedodd Sandra Pegram, Rheolwr yr Uned: “Mae hwn yn ddarn mor fuddiol o offer ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod.

“Mae gwythiennau babanod yn aml naill ai’n fach neu’n ddwfn, gan atal gweithwyr iechyd proffesiynol rhag dod o hyd i safle yn hawdd ac yn gyflym. Pan fydd babanod yn cael profion gwaed a chanwleiddio, mae’r pecyn hwn yn gwella profiad y babi a’r rhieni trwy leihau’r angen am fwy nag un ymgais.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle