Astudiaeth newydd ar Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn awgrymu canlyniadau calonogol i ffermydd bîff a defaid Cymru

0
245
Livestock-from-a-previous-Farming-Connect-Demonstration-Site

Mae astudiaeth Cyswllt Ffermio ar allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a gynhyrchir gan fentrau cig coch wedi dangos bod ffermydd Cymru yn is na’r meincnod ar gyfer ffermydd tebyg ar draws y DU.

Cynhaliwyd archwiliad carbon manwl ar fusnes 185 o ffermydd Cymru drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio yn ystod y rhaglen flaenorol ac mae’r rhain wedi cynhyrchu canlyniadau calonogol.

Roedd allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchwyd gan y mentrau bîff ar y ffermydd hyn 17% yn llai na’r ffigwr meincnod ar gyfer buchod sugno sy’n lloia yn y gwanwyn yn yr ucheldir a gyhoeddwyd yn Llawlyfr Rheoli Ffermydd 2022/23, sydd yn cynrychioli  ffermydd ledled y DU.

Ar 35.61kg COe/kg pwysau marw (DW), roeddent hefyd 5.7% yn llai na’r ffigwr meincnod carbon ar gyfer buchod sugno sy’n lloia yn y gwanwyn ar dir isel ledled y DU.

Ar gyfer mentrau defaid, roedd y ffigwr o 29.89 kg CO e/kg DW oen ar gyfartaledd 9.3% yn is na’r ffigwr meincnod ar gyfer diadell o famogiaid mynydd a 2.9% yn llai na’r meincnod ar gyfer diadell o famogiaid croesfrid.

Yr hyn a ddangosodd yr astudiaeth oedd amrywiad mawr yng nghyfanswm yr allyriadau fesul cilogram o gynnyrch ar gyfer pob menter, ond rhoddodd dadansoddiad pellach resymau clir yn y rhan fwyaf o achosion dros y gwerthoedd sylweddol uchel ac isel.

“Roedd yn amlwg nad oedd unrhyw gydberthynas rhwng maint y fferm a chyfanswm yr allyriadau fesul allbwn,” meddai Non Williams, Swyddog Carbon Arbenigol Cyswllt Ffermio .

Methan oedd cyfran fawr o gyfanswm yr allyriadau a gynhyrchwyd gan ffermydd bîff a defaid, a oedd yn deillio o eplesiad enterig.

Defnyddiwyd un cyfrifiannell carbon fferm ar gyfer yr astudiaeth er mwyn sicrhau cysondeb â’r ffermydd meincnod gan fod yr offeryn hwn hefyd wedi’i ddefnyddio ar y ffermydd meincnod. Defnyddiwyd offer cyfrifo carbon eraill i gwblhau archwiliad carbon ar gyfer ffermydd y tu hwnt i sampl yr astudiaeth, gyda’r offeryn yn cael ei ddewis gan y ffermwr a’r ymgynghorydd unigol a oedd yn cefnogi’r gwaith.

Darparodd yr archwiliadau carbon wybodaeth bwrpasol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr fferm gyfan pob busnes, hyd at yr adeg pan adawodd y cynnyrch giât y fferm. Rhoddwyd amcangyfrifon o atafaelu carbon hefyd.

Rhoddwyd amcangyfrifon i’r ffermwyr dan sylw o’r carbon a atafaelwyd ar eu ffermydd gan bridd, coed a gwrychoedd yn eu hadroddiadau.

Roedd ganddynt hefyd argymhellion ynghylch mesurau ymarferol y gallent eu cymryd i leihau cynhyrchiant nwyon tŷ gwydr ymhellach a gwella lefelau dal a storio carbon. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys gwella iechyd y fuches a’r ddiadell, rheoli tail a mabwysiadu dulliau llai o drin tir ar gyfer ail-hadu.

“Bydd hyn yn helpu busnesau fferm Cymru i wella effeithlonrwydd yn ogystal â helpu i weithio tuag at dargedau ‘sero net’,” meddai Dr Williams.

Bydd rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth newydd Cyswllt Ffermio, a ddechreuodd ar 1 Ebrill 2023, yn parhau i gynnig cymorth i fusnesau fferm a thir yng Nghymru.

Gall y Gwasanaeth Cynghori newydd gynnig hyd at 90% o gyllid i bob busnes cymwys tuag at gyngor annibynnol a chyfrinachol hyd at uchafswm o £3,000.

Gallai hyn gynnwys archwiliad carbon gydag argymhellion ar sut y gellid cyflawni gostyngiadau o bosibl, megis trwy wella rheolaeth pridd a dal a storio a thrwy iechyd ac effeithlonrwydd anifeiliaid.

Er bod yr astudiaeth hon yn adlewyrchiad calonogol iawn o’r sector cig coch yng Nghymru, mae’n pwysleisio bod lle i wella o hyd. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig ystod lawn o wasanaethau i gynorthwyo ffermwyr Cymru i leihau ôl troed carbon eu cynnyrch. “Mae cyngor pellach ar gael i edrych yn fanylach ar rai o’r argymhellion, megis samplo pridd a Chynllunio Rheoli Maetholion,” meddai Dr Williams.

●   SAC Consulting, 2022. Y Llawlyfr Rheoli Ffermydd 2022/2023. Ar gael ar: https://www.fas.scot/downloads/farm-management-handbook-2022-23/ .


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle