SAMARIAID YN CYNNIG CYMORTH I UNRHYW SY’N CAEL TRAFFERTH I YMDOPI YN SIOE FRENHINOL CYMRU

0
190
Mark Drakeford & Samaritans - Royal Welsh Show 2023

Mae’r Samariaid yng Nghymru yn Sioe Frenhinol Cymru drwy’r wythnos er mwyn cynnig cymorth i unrhyw aelod o’r cymunedau ffermio neu gefn gwlad sy’n cael trafferth i ymdopi. Samariaid Powys sy’n rhedeg y stondin a byddant ar gael i gynnig cymorth emosiynol a chyfrinachol i unrhyw un sydd ei angen. 

Roedd diwrnod cyntaf y sioe ar ddydd Llun yn llwyddiant ysgubol ac yn cyd-fynd ag ymgyrch Siarad â Ni’r Samariaid – diwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol yn hyrwyddo ei linell gymorth Cymraeg a Saesneg, sydd ar gael bob diwrnod o’r flwyddyn. I nodi’r dyddiad, daeth Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford at stondin y Samariaid er mwyn dangos ei gefnogaeth.

Dywedodd Mark Drakeford:

 “Mae’r Samariaid yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth amhrisiadwy sy’n achub bywydau ar gyfer unrhyw un sydd angen cymorth emosiynol. Mae eu presenoldeb yn Sioe Frenhinol Cymru yn hollbwysig a chroesawaf eu hymrwymiad i gefnogi cymunedau cefn gwlad a ffermio.”

Drwy ei brosiect dylanwadu cymunedol, mae Samariaid Cymru’n cryfhau ei gysylltiadau gyda sefydliadau a chymunedau ffermio a chefn gwlad ledled Cymru. Mae Samariaid Cymru’n gweithio i ganfod grwpiau sy’n wynebu risg uwch o hunanladdiad ac yn gwybod bod ei waith gyda’r sector ffermio ac amaethyddiaeth yn hollbwysig. 

Mae risg salwch meddwl a hunanladdiad yn uwch ymysg ffermwyr yng Nghymru a Lloegr. Yn 2019, cofrestrwyd 102 o hunanladdiadau gan unigolion yn gweithio ym maes amaethyddiaeth a busnesau cysylltiedig yng Nghymru a Lloegr. Mae ymchwil wedi nodi llawer o ffactorau sy’n gysylltiedig â’r gyfradd uchel yn y diwydiant hwn, gan gynnwys trafferthion ariannol, cydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith, unigrwydd ac ynysigrwydd, a digwyddiadau trawmatig.

Dywedodd Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru – 

“Diben Samariaid Cymru yw lleihau nifer y bobl sy’n marw trwy hunanladdiad ac rydyn ni’n parhau i fod yma i unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi ledled Cymru, waeth pwy ydych chi neu ble ydych chi. Mae heriau iechyd meddwl a hunanladdiad yn gymhleth, ac yn mynd y tu hwnt i ble rydych chi’n byw neu’ch proffesiwn, ond gall y rhain fod yn ffactorau. Yng Nghymru, mae’r risg uwch i’r rhai sy’n byw mewn lleoliadau gwledig ac amaethyddol oherwydd mynediad gwael at wasanaethau, ynysigrwydd ac unigrwydd parhaus yn golygu ei bod yn hanfodol inni wneud mwy i gyrraedd yr unigolion a chymunedau hyn. 

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein presenoldeb yn Sioe Frenhinol Cymru’n codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael, ac yn bwysicaf oll, yn rhoi gwybod i’r rhai yn y cymunedau ffermio a chefn gwlad ein bod ni yma bob amser, unrhyw awr o’r dydd neu’r nos”

Gall unrhyw un gysylltu â’r Samariaid yn ddi-dâl unrhyw bryd o unrhyw ffôn, hyd yn oed ffôn symudol heb gredyd, trwy ffonio 116 123. Os hoffech gael cymorth emosiynol yn Gymraeg, mae gan y Samariaid linell gymorth Gymraeg sydd ar gael yn ddi-dâl drwy ffonio 0808 164 0123 (ar agor bob dydd 7pm-11pm). Ni fydd y rhifau hyn yn ymddangos ar eich bil ffôn. Neu gallwch anfon neges e-bost at jo@samaritans.org neu fynd i www.samaritans.org 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle