Mae staff Prifysgol Abertawe yn dathlu ar ôl ennill Dyfarniad Prifysgol Masnach Deg am y tro cyntaf ers pum mlynedd.
Mae’r dyfarniad yn cydnabod sefydliadau sydd wedi ymgorffori arferion moesegol a chynaliadwy drwy gydol eu cwricwlwm, gweithgarwch caffael, ymchwil ac ymgyrchoedd.
Mae beirniaid yn ystyried popeth o systemau caffael a manwerthu’r brifysgol hyd at arlwyo, ymgyrchu a dylanwadu. Mae’r dyfarniad hefyd yn gwobrwyo ymdrechion cyrchu moesegol a chyfiawnder masnach ehangach y tu hwnt i gynhyrchion ardystiedig Masnach Deg, fel Rainforest Alliance.
Darperir y dyfarniad gan y Sefydliad Masnach Deg, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a Students Organising for Sustainability (SOS-UK), a’i nod yw annog cydweithio rhwng myfyrwyr, staff academaidd a staff nad ydynt yn addysgu ac undeb y myfyrwyr.
Mae’r angen am ymgorffori arferion Masnach Deg ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei arwain nid yn unig gan ei thargedau a’i hymrwymiadau yn ei Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd, ond hefyd gan ei myfyrwyr sy’n ymwybodol o’r amgylchedd.
Mae arolwg Masnach Deg wedi datgelu bod 78 y cant o fyfyrwyr wedi dweud eu bod yn poeni bod ffermwyr mewn gwledydd datblygol yn cael pris teg am y cynhyrchion maent yn eu tyfu. Roedd llafur plant yn bryder i 70 y cant o fyfyrwyr, tra bod 77 y cant am brynu cynhyrchion a gynhyrchir heb lafur plant.
Meddai Katie Horsburgh, arweinydd prosiect Masnach Deg Prifysgol Abertawe: “Mae hi wedi bod yn wych gweithio tuag at Ddyfarniad Prifysgol Masnach Deg ac mae bod yn llwyddiannus yn dyst i’r cydweithio rhwng llawer o gydweithwyr. Rydyn ni wedi gweithio gyda staff arlwyo, Undeb y Myfyrwyr, myfyrwyr, ac elusennau a sefydliadau lleol i gynyddu ein hystod o gynnyrch, ac yn bwysicach oll, gynyddu ymwybyddiaeth o amcanion Masnach Deg gyda myfyrwyr a staff. Yn dilyn y llwyddiant hwn, rydyn ni’n llawn cyffro i barhau i symud ymlaen ar ein taith Masnach Deg a gweithio tuag at lefel nesaf y dyfarniad!”
Fel rhan o’r broses ddyfarnu, cafodd myfyrwyr gyfle hefyd i gael eu hyfforddi gan staff SOS-UK a Masnach Deg i gwblhau’r archwiliad ar gyfer y dyfarniad, gan gyfrannu at eu sgiliau a’u profiad trosglwyddadwy wrth gynnal archwiliadau.
Eleni, roedd gweithredu Masnach Deg yn Abertawe yn cynnwys:
Gwerthu ystod well o gynhyrchion Masnach Deg mewn mannau arlwyo;
Masnach Deg ac SOS-UK yn hyfforddi myfyrwyr fel archwilwyr;
Nodi cyfleoedd masnach deg fel rhan o’r cwricwlwm ac yn allgyrsiol; a,
Chynnal digwyddiadau Pythefnos Masnach Deg er mwyn meithrin dealltwriaeth.
Meddai’r myfyriwr archwilio Masnach Deg, Shyama Vazhappully Saravanan: “Mae Abertawe wedi gwneud ymdrech dda i gwblhau holl ofynion gorfodol y dyfarniad. Roedd y dystiolaeth yn glir ac yn dda. Mae gan Abertawe weithgor craidd da a oedd yn ddefnyddiol iawn wrth gwblhau’r dyfarniad yn llwyddiannus.”
Ychwanegodd Elena Fernandez Lee, Rheolwr Ymgyrchu Addysg o’r Sefydliad Masnach Deg: “Mae tîm y prosiect yn falch iawn o weld pa mor galed mae Prifysgol Abertawe wedi gweithio, gydag angerdd a chreadigrwydd, i ymgorffori egwyddorion Masnach Deg yn ei hethos a’i pholisi. Mae materion cynaliadwyedd a defnydd yn uchel ar yr agenda ac wedi cael eu hintegreiddio i fywyd y sefydliadau.
“Mae ymrwymiad cadarnhaol y Brifysgol i ddatblygu ei gwaith ynghylch Masnach Deg yn glir.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle