Bydd rhaglen grant gwerth £1.2 MILIWN yn helpu i sicrhau bod mudiadau cymunedol yn Sir Ddinbych yn barod am y dyfodol.

0
216
Tom and Sandra

Bydd y gronfa newydd hon, Cronfa Allweddol Sir Ddinbych, yn darparu cymorth refeniw a chymorth cyfalaf i grwpiau trydydd sector yn dilyn y pandemig Covid-19, Brexit a heriau economaidd eraill yn deillio o’r argyfwng costau byw a’r argyfwng costau ynni gwladol.

Dan arweiniad Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, wedi’i leoli yn Rhuthun, cyllidir y cynllun gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywed Prif Swyddog Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Tom Barham, fod y grantiau yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gwydnwch a chynllunio tymor hir.

Mae’r arian ar gael i gryfhau mudiadau i’r dyfodol, cefnogi darparu eu gwasanaethau a’u cynorthwyo gyda staff a seilwaith,” ychwanegodd.

Mae mudiadau cymunedol yn hollbwysig i’r rhanbarth hon – mae’r cyfraddau gwirfoddoli yn Sir Ddinbych y trydydd uchaf yng Nghymru – ac mae’n hanfodol eu bod yn parhau i ateb anghenion pobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau bob dydd.”

Rydym ni’n dymuno gwneud y sector yn fwy gwydn i newidiadau a bygythiadau na ellir eu rhagweld, fel Covid. Mae’n gronfa’n unigryw yn yr ystyr hyn, a gobeithiwn gael ceisiadau sy’n targedu’r meysydd hyn.”

Enghreifftiau o hyn yw grwpiau cymunedol sy’n trefnu a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau i’w cymuned leol, neu gellir rhoi cymorth ariannol tuag at offer, dodrefn, rhent, gwaith trwsio, diogeledd, biliau ynni, costau adnewyddu cyfleusterau neu gostau allweddol eraill a fyddai’n creu budd nawr ac yn y dyfodol.

Tom Barham

Caiff mudiadau wneud cais am grant refeniw neu grant cyfalaf gwerth rhwng £2,000 a £50,000, a’r uchafswm y gellir ei ddyfarnu i unrhyw ymgeisydd yw £50,000.

Mae elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol wedi’u seilio yn Sir Ddinbych, neu sydd â nifer o fuddiolwyr yn y sir, yn gymwys i gyflwyno cais. Nid yw mudiadau mawr, cenedlaethol, yn debygol o fod yn llwyddiannus.

Byddwn yn dyfarnu grantiau i’r rhai sy’n gwybod go iawn sut i wella gwasanaethau mewn cymunedau yn yr ardal,” meddai Tom.

Ac mae’n bwysig i grwpiau llai gysylltu gyda ni; rydym ni’n gwybod yr effaith rydych chi’n ei gael ar lefel leol a bod cyllid grant yn ymddangos y tu hwnt i’ch gafael yn amlyn sicr nid yw hynny’n wir yn yr achos hwn ac rydym ni wir eisiau clywed gennych chi.”

Mae rownd gyntaf y ceisiadau yn agor ddydd Gwener (1 Medi) ac yn cau ddydd Sadwrn, 30 Medi, cyn agor eto ym mis Mawrth 2024.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth anfonwch neges e-bost i keyfund@dvsc.co.uk neu edrychwch ar ein gwefan: www.dvsc.co.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle