Bydd gwasanaeth newydd ym Mronglais yn cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig

0
198
Uchod: Eiriolwr Iechyd Cam-drin Domestig Denye Amadi

Mae gwasanaeth newydd a ariennir gan elusen i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig ar fin mynd yn fyw yn Ysbyty Bronglais.

Mae’r gwasanaeth eiriolwr iechyd wedi derbyn dros £59,000 o gyllid grant gan NHS Charities Together, elusen genedlaethol sy’n cefnogi elusennau’r GIG ledled y DU, a dros £5,000 gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen GIG swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ariennir y gwasanaeth tan ddiwedd 2024.

Yn dilyn ymarfer tendro, mae Gwasanaethau Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru (WWDAS) wedi derbyn y contract i ddarparu’r gwasanaeth newydd. Bydd yn cael ei gyflwyno gan yr Eiriolwr Iechyd Cam-drin Domestig Denye Amadi (yn y llun) sydd wedi’i leoli yn yr adran achosion brys ym Mronglais.

Dywedodd Mandy Nichols-Davies, Pennaeth Diogelu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnig cymorth i ddioddefwyr cam-drin sy’n mynychu’r adran achosion brys a’r Eiriolwr Iechyd Cam-drin Domestig fydd eu prif bwynt cyswllt.

“Bydd y rôl eiriolwr iechyd hon nid yn unig yn darparu haen ychwanegol o gefnogaeth i’r rhai y mae cam-drin yn effeithio arnynt ond bydd hefyd yn cefnogi staff i ymateb mor effeithiol â phosibl.”

Dywedodd Rachel Munkley, Nyrs Arweiniol – Trais yn Erbyn Menywod: “Mae hwn yn gyfle gwych hefyd i gynyddu gwybodaeth a hyder staff adrannau achosion brys fel y gallant gefnogi cleifion sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig a’u cyfeirio at y cymorth priodol.

“Yn y pen draw, rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at ostyngiad yn nifer yr ail-fynychu adrannau achosion brys ar gyfer anafiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a phryderon iechyd.”

Dywedodd Michelle Pooley, Prif Swyddog Gweithredol WWDAS: “Rydym yn falch iawn o weithio gydag Adran Achosion Brys Hywel Dda a Bronglais i sicrhau llwybr cymorth effeithiol i unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae elusennau’r GIG yn darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect pwysig hwn a fydd yn dod â chymaint o fanteision i gleifion a staff Bronglais.”

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle