Mae myfyrwyr yn cynorthwyo cymunedau yn Fietnam yn dilyn ymweliad ysbrydoledig i Dde-ddwyrain Asia.

0
227

Mae grŵp o 15 o ddysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Goleg Cambria Glannau Dyfrdwy wedi treulio pythefnos yn byw yn y wlad a chyfrannu at raglenni ymgysylltu â’r gymuned yno.

Gwnaeth y grŵp Lefel 2 a Lefel 3 gynorthwyo merched mewn canolfan cymorth cymdeithasol a myfyrwyr mewn ysgolion cynradd lleol, gan gyflwyno gweithdai ar Saesneg sgyrsiol a rhannu’r Gymraeg.

Cafodd y daith ei threfnu mewn partneriaeth â Challenges Abroad, sy’n cyflwyno ac arwain anturiaethau moesegol i bobl ifanc hyd a lled y byd, gyda chyllid gan Ganllun Turing Adran Addysg Llywodraeth y DU.

Dywedodd Lisa Radcliffe, Pennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Technegol yng Nglannau Dyfrdwy bydd y “cyfle arbennigyma yn arwain at berthynas hirsefydlog rhwng y coleg a’r cymunedau gwnaethon nhw ymweld â nhw gan gynnwys Ho Chi Minh a Mekong Delta.

Rydyn ni’n gweithio gyda Challenges Abroad i ddarparu ein dysgwyr gyda phrofiadau a fydd yn rhoi’r adnoddau iddyn nhw symud ymlaen a llwyddo yn eu gyrfaoedd wrth ddatblygu i fod yn ddinasyddion byd-eang sy’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol,” meddai Lisa.

Buasai’r criw byth wedi cael gwneud hynny fel rhan o’r cwricwlwm arferol, ond mewn Astudiaethau Technegol yn arbennig rydyn ni’n edrych rhagor ar ryngwladoli ac agor eu llygaid i’r byd.

“Cambria oedd y coleg cyntaf i gymryd rhan yn rhaglen beilot Fietnam Challenges Abroad, felly roedd yn fraint enfawr.”

Ychwanegodd hi: “Roedd ein hamser yno, yn arbennig yn y ganolfan merched, yn agoriad llygad gwirioneddol. Bydd y rhaglen yma yn parhau i ddatblygu a chyflwyno sgiliau bywyd er mwyn helpu’r merched yma i ddod yn fwy annibynnol a gobeithio mynd ymlaen i gael teulu a gyrfa.

Roedd hi’n brofiad emosiynol ond gwnaeth adeiladu eu hyder a dangos ochr arall o iechyd a gofal cymdeithasol iddyn nhw.”

“Fel fi maen nhw eisiau parhau i gefnogi Sefydliad FutureSense a galluogi merched i ffynnu, symud ymlaen a byw bywydau annibynnol, felly wrth addysgu ystod o sgiliau iddyn nhw o grefft a phaentio i goginio, a chyllidebu, gallwn ni ddechrau cael effaith.”

Aeth Lisa ymlaen i sôn bod llawer o’r merched yn siarad Saesneg perffaith ond oherwydd eu bod nhw wedi ymddieithrio o’u teuluoedd, eu bod wedi eu dadleoli, neu does ganddyn nhw ddim gwarantydd i’w cynorthwyo nhw, doedd ganddyn nhw unman arall i fynd.

Roedd hi’n sefyllfa anghredadwy a thorcalonnus, ond bydd y prosiectau ar lawr gwlad dramor yn galluogi buddiolwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddod yn gyflogadwy, i gael lefel dda o addysg, iechyd da ac i allu ffynnu,” meddai.

“Yn y tymor hir bydd hyn yn rhodd i’r myfyrwyr, bydd y daith yma wedi golygu rhywbeth iddyn nhw, ac maen nhw mor ddiolchgar yn barod am eu bywydau a’r cyfleoedd maen nhw’n eu cael.

Bydd yr hyn maen nhw wedi’i brofi yn cadarnhau eu taith wrth iddyn nhw fynd yn eu blaen i fod yn weithwyr cymdeithasol, nyrsys neu beth bynnag maen nhw’n penderfynu ei wneud yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Vicky Edwards Is-bennaeth Astudiaethau Technegol: “Mae teithiau fel hyn sy’n newid bywydau yn bwynt gwerthu unigryw nid yn unig ar gyfer y cwrs ond y coleg hefyd.

“Mae cael y cyfle i fod yn rhan o raglen a fydd yn cael effaith mor gadarnhaol ar y merched yma a’u cymuned mor arbennig.

Dwi’n siŵr y bydd yn cael effaith ar y dysgwyr am gyfnod hir ond hefyd bydd yn eu helpu nhw i ddod hyd yn oed yn fwy gwydn, hyderus ac yn eu paratoi ar gyfer llawer o wahanol sefyllfaoedd a heriau yn eu gyrfaoedd.”

Dywedodd aelod o dîm Challenges Abroad: “Mae wedi bod yn wych cael gweithio gyda Choleg Cambria a Cholegau Cymru ar y rhaglen beilot yma yn Fietnam.

Mae’r cyfleodd yma’r un mor fuddiol i’r myfyrwyr a’r cymunedau rydyn ni’n eu cefnogi.

“We are very much looking forward to developing the international opportunities available to Cambria students and see the impact they continue to make around the world, whilst developing vital skills and becoming active global citizens.”

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu’r cyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael i fyfyrwyr Cambria a gweld yr effaith maen nhw’n parhau i’w chael ar hyd a lled y byd, wrth ddatblygu sgiliau hanfodol a dod yn ddinasyddion byd-eang gweithredol.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Am ragor o wybodaeth ar Challenges Abroad, ewch i www.challengesabroad.co.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle