Elusen y GIG yn ariannu adnewyddu ystafell staff Glangwili

0
200
Yn y llun uchod: Ystafell staff Ward Gwenllian

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu dodrefn a gwaith celf gwerth dros £4,000 ar gyfer ystafell staff Ward Gwenllian yn Ysbyty Glangwili, diolch i roddion.

Mae Ward Gwenllian yn darparu gofal i bobl sy’n gwella ar ôl cael strôc. Mae’r elusen wedi ariannu seddi, bwrdd bwyta, bwrdd coffi, loceri a murlun wal ar gyfer ystafell y staff.

 Dywedodd Sion Davies, Uwch Reolwr Nyrsio: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i adnewyddu’r ystafell staff yn Ward Gwenllian. Mae wir yn mynd i wella’r amgylchedd gwaith i staff sy’n gweithio ar y ward.

 “Mae ystafelloedd staff yn rhoi man i staff ymlacio ac ymddieithrio dros dro o’u diwrnod gwaith. Dim ond seibiant byr y mae’n ei gymryd mewn parth di-waith i bobl ymlacio ac ailwefru. Mae’r tîm wedi prynu dodrefn gwyrdd a chelf naturiol i annog heddwch a llonyddwch, mae wir yn mynd i wella morâl a lles ein staff.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle