Bydd meysydd allweddol a all helpu i sicrhau ffrwythlondeb gwartheg llaeth yn cael eu cynnwys mewn modiwl gweithdy newydd wedi’i achredu gan Lantra ac yn cael ei ychwanegu at raglen hyfforddiant iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio.
Mae’r wythnosau cyn ac ar ôl lloia yn gyfnodau pwysig i’r fuwch, felly gall rheolaeth drosiannol dda gael dylanwad mawr ar ei ffrwythlondeb, meddai Becky Summons, Rheolwr Iechyd a Lles Anifeiliaid ac E-ddysgu Cyswllt Ffermio.
“Bydd paratoi’r fuwch cyn lloia ac yn yr ychydig wythnosau ar ôl lloia yn cael effaith aruthrol ar ei ffrwythlondeb dilynol,” meddai.
“Mae rheolaeth dda o’r fuwch sy’n mynd drwy gyfnod trosiannol yn ei gwneud hi’n barod ar gyfer cyfnod llaetha llwyddiannus, ac mae’n hanfodol i gynhyrchiant a phroffidioldeb y fuwch odro.”
Yn ddelfrydol, dylai fod â llai o berygl o glefyd metabolig ar ôl lloia, ychydig iawn o newid yn sgôr cyflwr corff (BCS) a bod ei chroth yn dychwelyd i iechyd llawn yn gyflym.
Er mwyn helpu ffermwyr gyda’r cyfnod pwysig hwn, mae Cyswllt Ffermio wedi cyflwyno modiwl hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid newydd, Sicrhau ffrwythlondeb: Rheoli’r fuwch laeth o’r cyfnod sychu i’r cyfnod ffrwythloni, a fydd yn cael ei ddarparu gan filfeddygon lleol cymeradwy ledled Cymru.
Bydd y rhai sy’n mynychu’r gweithdai yn gweithio trwy’r ffactorau sylfaenol sy’n effeithio’n uniongyrchol ar baramedrau ffrwythlondeb a chyfraddau ffrwythloni, meddai Ms Summons.
Mae’r rhain yn cynnwys deall egwyddorion sylfaenol cyfnod trosiannol llwyddiannus ac arwyddocâd y cyfnod sych.
Rhoddir arweiniad ar weithdrefnau sychu, therapi ar gyfer gwartheg sych a therapi dethol i fuchod sych, ac ar sgorio cyflwr corff.
“Bydd y gweithdy’n ymdrin â sut i nodi targedau Sgôr Cyflwr Corff ar wahanol adegau yng nghylch cynhyrchu’r fuwch ac yn nodi’r risgiau sy’n gysylltiedig â gwartheg sy’n rhy dew a gwartheg sy’n rhy denau,” meddai Ms Summons.
Bydd cyngor arall yn cynnwys monitro faint o le sydd ei angen a chymeriant deunydd sych, cyfforddusrwydd ac amgylchedd y fuwch ffres, cofnodi data gwerthfawr a nodi ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chlefyd y fuwch sydd newydd lloia.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ariannu’n llawn, ond i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwnnw rhaid i bawb sy’n mynychu fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP).
Bydd presenoldeb yn y gweithdy’n cael ei gofnodi ar gofnod DPP ‘Storfa Sgiliau’ y sawl sy’n mynychu ynghyd â ‘thystysgrif presenoldeb’ Gwobrau Lantra.
Cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu ewch i wefan Cyswllt Ffermio https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy i gael rhagor o wybodaeth.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle