Cafodd dau brosiect sy’n helpu pobl i wirfoddoli a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn yr awyr agored yn Sir Benfro eu cydnabod yn ddiweddar yng Ngwobrau Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol 2023, sy’n cydnabod yr unigolion a’r grwpiau sy’n mynd y filltir ychwanegol i Barciau Cenedlaethol.
Cafodd prosiect Gwreiddiau i Adferiad, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Mind Sir Benfro, ei enwi’n ail yng Nghategori Safbwyntiau Newydd y gwobrau, sy’n dathlu’r bobl, y prosiectau neu’r mentrau sy’n hyrwyddo ac yn ysbrydoli amrywiaeth a chynhwysiant mewn Parciau Cenedlaethol.
Mae Gwreiddiau i Adferiad yn brosiect sy’n cael ei arwain gan bobl am bwerau adferol awyr agored anhygoel Sir Benfro. Mae pobl o bob gallu yn dysgu sgiliau newydd ac yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau fel teithiau bywyd gwyllt, celf a chrefft, gwaith cadwraeth, sesiynau llesiant a gweithgareddau garddio.
Roedd Cenhedlaeth Nesaf Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy’n cynnwys Pwyllgor Ieuenctid a Pharcmyn Ifanc yr Awdurdod, hefyd ar y rhestr fer yn y categori Safbwyntiau Newydd.
Dywedodd Maisie Sherratt, Swyddog Gwreiddiau i Adferiad/Swyddog Cynnwys ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Rwy’n falch iawn o’r gwaith caled a’r ymrwymiad y mae pawb sy’n ymwneud â’r prosiectau hyn yn eu dangos. Diolch i bawb am eich cefnogaeth gyson a’ch geiriau o anogaeth.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones: “Roeddwn i’n falch iawn bod dau brosiect o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyrraedd y rhestr fer, gan barhau â’r traddodiad cryf o enillwyr blaenorol a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Mae’r ddau brosiect hyn yn tynnu sylw at rai o’r gwahanol ffyrdd y mae Awdurdod y Parc yn gweithio i ymgysylltu â phobl o bob oed, cefndir a gallu i archwilio sut y gall y Parc Cenedlaethol fod o fudd iddyn nhw a sut y gallan nhw helpu i wneud y Parc yn lle gwell i bobl eraill.”
Gan nad oedd y cyfranogwyr yn y ddau brosiect yn gallu dod i’r seremoni wobrwyo yn y Senedd yn Llundain, cynhaliwyd noson arbennig yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi i ddathlu eu llwyddiannau, ochr yn ochr â’r sefydliadau a’r unigolion sydd wedi’u cefnogi.
Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr o grŵp Eco Dewi, a ddaeth yn ail yn 2022.
Mae Gwobrau Amddiffynwyr y Parciau Cenedlaethol yn cael eu trefnu gan yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol bob blwyddyn i gydnabod unigolion a grwpiau sy’n mynd y filltir ychwanegol i Barciau Cenedlaethol. Ceir prosiectau ar raddfa fawr sy’n helpu natur i adfer, yn ogystal â grwpiau ar lawr gwlad sy’n gwella mynediad cymunedol at Barciau Cenedlaethol, a gwirfoddolwyr sy’n helpu pobl i ymweld yn gyfrifol.
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Amddiffynwyr y Parc Cenedlaethol, ewch i: https://www.cnp.org.uk/national-park-protector-awards.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Gwreiddiau i Adferiad, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/gwirfoddoli/gwreiddiau-i-adferiad/ neu dilynwch y dudalen Facebook: https://www.facebook.com/p/Roots-to-Recovery-Mind-Pembrokeshire-100068679281023/.
I gael rhagor o wybodaeth am Genhedlaeth Nesaf y Parc Cenedlaethol, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/cenhedlaeth-nesaf/.
I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â phrosiect Gwreiddiau i Adferiad, anfonwch e-bost at volunteering@pembrokeshirecoast.org.uk.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle