Gan fyfyrio ar flwyddyn ryfeddol arall, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi edrych yn ôl ar ei gyflawniadau a’i heriau drwy gydol 2022/23 yn ystod ei gyfarfod cyffredinol blynyddol.
Heddiw [dydd Iau 28 Medi 2023], bu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn adolygu Adroddiad Blynyddol y sefydliad, gan gynnwys ei gyfrifon ariannol. Mae’r adroddiad a’r cyflwyniadau yn nodi i staff, cleifion, a’r cyhoedd yr hyn a gyflawnwyd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, yr hyn sydd wedi bod yn heriol, a sut mae’r bwrdd iechyd yn bwriadu gwella gwasanaethau i bobl leol.
Roedd y prif themâu’n cynnwys sut mae’r bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd yn erbyn ei amcanion strategol, ei ymateb parhaus i COVID-19 a’i berfformiad yn erbyn nifer o fesurau gan gynnwys gofal wedi’i gynllunio, gofal brys a gofal argyfwng, canser, iechyd meddwl, gwasanaethau niwroddatblygiadol, rheoli heintiau a gweithlu.
Cyfeiriwyd at fentrau newydd i gefnogi cleifion a gwella gwasanaethau, cynnydd trwy gyfleoedd ymchwil a phartneriaeth, datblygiadau gweithlu a datblygiadau cyfalaf ar draws y tair sir. Darparwyd cynnydd ar amcanion llesiant, gwasanaethau Cymraeg, a chyflwyniad achos busnes y bwrdd iechyd ar gyfer buddsoddiad o £1.3biliwn yn ei strategaeth hirdymor. Rhoddwyd canmoliaeth hefyd i’r holl staff, gan gynnwys y rhai sydd wedi ennill neu ar y rhestr fer ar gyfer dwsinau o wobrau lleol a chenedlaethol yn ogystal ag i’r bwrdd iechyd fel cyflogwr.
Cydnabuwyd hefyd gefnogaeth cleifion, teuluoedd a chymunedau lleol i elusen y bwrdd iechyd, Elusennau Iechyd Hywel Dda. Darparwyd enghreifftiau o weithgareddau codi arian a gyfrannodd at £3.99miliwn o incwm elusennol, ac o’r llu o wasanaethau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i wariant craidd y GIG a ariannwyd gan yr elusen.
Yn ogystal â chyflwyno’r Adroddiad Blynyddol a chyfrifon ariannol, clywodd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd gan aelodau’r Academi Prentisiaethau. Rhannodd rhai o brentisiaid y bwrdd iechyd yr hyn y maent wedi’i fwynhau am eu hamser gyda’r bwrdd iechyd, a sut maent yn edrych ymlaen at ddatblygu eu gyrfa yn y sefydliad.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar flwyddyn ryfeddol arall, ond hefyd i edrych ymlaen at 2023/24. Er bod pethau’n dal yn heriol iawn i’r GIG, mae gennym ni weledigaeth glir i’n helpu i wella o effaith y pandemig, mynd i’r afael â’n her ariannol hirsefydlog, ac adeiladu system iechyd wydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
“Rydym yn cydnabod hefyd fod mynediad i ystod eang o wasanaethau wedi’i gyfyngu dros y tair blynedd diwethaf, gan arwain at oedi mewn triniaeth a gofal o fewn ein bwrdd iechyd. Mae’n ddrwg iawn gennym os ydych wedi profi oedi cyn cael mynediad at eich gofal a’ch triniaeth. Er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau nifer y cleifion sy’n aros am driniaeth, rydym yn ymwybodol ei bod yn parhau i fod yn anodd i bobl sy’n dal i aros, neu y mae eu triniaeth wedi’i gohirio ymhellach. Rydym wedi ymrwymo i leihau ein rhestrau aros ymhellach i lefelau cyn-bandemig a chyrraedd targed Llywodraeth Cymru.
“Mae’r ymateb llawn ffocws i’r pandemig wedi gadael gwaddol ariannol hefyd. Ni allem nodi a chyflawni arbedion ac effeithlonrwydd yn y ffordd y byddem fel arfer, ac o ganlyniad roeddem yn wynebu heriau ariannol sylweddol wrth i gyllid ar gyfer ymateb COVID-19 ddod i ben, gan olygu bod angen inni wneud iawn am ddwy flynedd o amser coll.
“Mae penderfynoldeb ein staff yn parhau i’n syfrdanu, gyda chydweithwyr wedi ymrwymo i ddarparu’r gofal cleifion gorau posibl o dan amgylchiadau anodd.
“Fel y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol olaf y byddaf yn ei gadeirio cyn fy ymddeoliad o’r bwrdd iechyd ym mis Hydref, rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i bawb sy’n gweithio o fewn, a gyda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, beth bynnag fo’ch rôl. Diolch hefyd i’n holl wirfoddolwyr, a’n partneriaid, am eich gwasanaeth rhyfeddol yn gofalu am gleifion a’n cymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
Mae’r Adroddiad Blynyddol yn manylu ar feysydd lle mae angen i berfformiad y bwrdd iechyd wella, ynghyd â mesurau lliniaru a chamau gweithredu sy’n cael eu cymryd, mewn meysydd fel amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio, cleifion allanol, iechyd meddwl, gwasanaethau niwroddatblygiadol, a rheoli heintiau. Mae perfformiad yn y meysydd hyn a meysydd eraill wedi’i effeithio’n negyddol gan faterion gyda llif cleifion, aciwtedd cleifion, galw a chapasiti, a phrinder staff.
Mae gwella ansawdd yn parhau i fod yn ffocws allweddol ar draws y sefydliad i sicrhau’r gofal mwyaf diogel a gorau i’n cleifion a’n cymuned, ac mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys gwrando ar adborth gan y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau, a gweithredu arno.
Drwy gydweithio’n agos â’i bartneriaid ar weledigaeth a rennir ar gyfer ein cymunedau i fyw bywydau iach a llawen, mae’r bwrdd iechyd yn parhau i ymgysylltu â phobl leol ar bynciau fel ei strategaeth iechyd a gofal a’r broses arfarnu tir ar gyfer ysbyty newydd arfaethedig, dyfodol gwasanaethau plant ac ieuenctid, yn ogystal â newidiadau i rai meddygfeydd teulu lleol.
Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth i gefnogi grwpiau agored i niwed, cartrefi gofal, gofal cymdeithasol a rhyddhau diogel, wedi datblygu cyfleoedd newydd gyda phrifysgolion lleol ac yn parhau fel aelod gweithgar o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle