Llyn Llys-y-frân yn cyhoeddi gwersylla a llwyth o weithgareddau dros hanner tymor mis Hydref!

0
165
Llys-y-frân Lakeview Campsite

Dwr Cymru Welsh Water News

  • Yn dilyn lansiad llwyddiannus Maes Gwersylla Llys-y-frࣙân ym mis Gorffennaf eleni, mae Dŵr Cymru wedi penderfynu agor y maes gwersylla tymhorol am un wythnos yn unig i groesawu ymwelwyr dros hanner tymor mis Hydref.
  • Cynhelir Ffair Bwyd a Diod Hydrefol flynyddol Llys-y-frân dydd Sadwrn 28 Hydref gyda dewis bendigedig o fwydydd a diodydd i’w prynu gan fusnesau lleol o Sir Benfro.
  • Gall y plant fwynhau gweithdai gwneud llusernau dydd Sadwrn, 28 Hydref a 4 Tachwedd
  • Rhwng 30 Hydref a 4 Tachwedd, bydd gennym sesiynau gweithgareddau antur dŵr i bobl ifanc
  • Bydd ‘Sioe Tân Gwyllt Flynyddol y Ffermwyr Ifanc’ yn dychwelyd i Lys-y-frân eto eleni dydd Sadwrn 4 Tachwedd.
Producers at Llys-y-frân Autumn Food & Drink Fair

Yn dilyn lansiad llwyddiannus Maes Gwersylla Llys-y-frࣙân ym mis Gorffennaf eleni, mae Dŵr Cymru wedi penderfynu agor y maes gwersylla tymhorol am un wythnos yn unig i groesawu ymwelwyr dros hanner tymor mis Hydref.

Mae lleiniau caled ar gael o ddydd Gwener, 27 Hydref i ddydd Gwener 3 Tachwedd. Gall ymwelwyr ymgolli ym myd natur a mwynhau pob math o weithgareddau cyffrous. Gallant roi cynnig ar chwaraeon dŵr, crwydro’r llwybrau beicio hardd a dilyn ein llwybrau cerdded gan greu atgofion bythgofiadwy. Ac at hynny, gall ymwelwyr fanteisio ar gyfleusterau’r ganolfan ymwelwyr, y siop a’r caffi hefyd.

Pembrokeshire Cider

Dyma’r tro cyntaf i Ddŵr Cymru agor a gweithredu llety yng Nghymru. Dywedodd Rheolwr Atyniad Llyn Llys-y-frân, Mark Hillary: “Gwersyll Llys-y-frân yw’r cyntaf o’i fath yn Dŵr Cymru, ni yw’r unig atyniad ymwelwyr o fewn portffolio Dŵr Cymru i gynnig llety ar y safle. Mae hi’n ychwanegiad cyffrous iawn at ein darpariaeth yma yn Llys-y-frân ac mae’r adborth gan y bobl a ddaeth i aros yn y gwersyll dros yr haf wedi bod yn eithriadol o dda. Ar hyn o bryd mae gennym sgôr o 9.8 gan adolygwyr ar Pitchup.com. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael agor y gwersyll am dymor cyfan y flwyddyn nesaf, a chroesawu ymwelwyr o bedwar ban y byd.”

I gael rhagor o fanylion am y gwersyll  sut i drefnu gwyliau dros hanner tymor mis Hydref, ewch i: https://llys-y-fran.co.uk/camping-west-wales/

Pembrokeshire Fudge – Fudge Cups

Dros hanner tymor mis Hydref bydd yna galendr llawn o ddigwyddiadau i ddiddanu pawb. Gall y plant fwynhau gweithdai gwneud llusernau dydd Sadwrn, 28 Hydref a 4 Tachwedd, a bydd y tîm wrth law i helpu’r plant i greu eu llusernau Hydrefol eu hunain i’w cadw. Bwciwch ar lein yn: <https://widget.eola.co/941/c547358d-8826-4dd3-bee5-f4a12e0a07e3/willow-lantern-making>

Rhwng 30 Hydref a 4 Tachwedd, bydd gennym sesiynau gweithgareddau antur dŵr i bobl ifanc, lle gall y plant fwynhau a gwneud ffrindiau newydd wrth hwylio neu wrth feistroli sgiliau chwaraeon padlo. <https://widget.eola.co/941/c547358d-8826-4dd3-bee5-f4a12e0a07e3/youth-activity-half-day-kayaking>

The Potting Shed chutneys

Cynhelir Ffair Bwyd a Diod Hydrefol flynyddol Llys-y-frân dydd Sadwrn 28 Hydref gyda dewis bendigedig o fwydydd a diodydd i’w prynu gan fusnesau lleol o Sir Benfro.

Mwynhewch ddanteithion gan Welsh Wales Chock Shop, Pembrokeshire Fudge, 7 Sins Bakery, Plumstone Welsh Bakes, Printed Chocolates Ltd a The Fudge Foundry Wales. Bydd Pembrokeshire Cider yn gwerthu eu seidr gorau gan gynnwys seidr Henry VII, seidr William Marshal a seidr Cromwell 1648.  Bydd Ystâd Cwm Deri’n dod â dewis helaeth o winoedd, jin o bob math a rỳm.  Ac i’r rhai sydd â dant llai melys, bydd siytni a sawsiau gan Little Black Hen, Foxhill Preserves a The Potting Shed, Maenclochog.

Foxhill Preserves

Am fanylion: https://llys-y-fran.co.uk/events/autumn-food-drink-fair/

Bydd ‘Sioe Tân Gwyllt Flynyddol y Ffermwyr Ifanc’ yn dychwelyd i Lys-y-frân eto eleni dydd Sadwrn 4 Tachwedd.  Bydd yr holl elw o’r ffi mynediad ar y diwrnod yn mynd i gynorthwyo Elusennau’r Ffermwyr Ifanc.  Bydd yna lwyth o weithgareddau trwy gydol y dydd, o 11am gallwch alw i mewn i’r ‘Gweithdy Sgiliau Syrcas’ am ddim yn y ganolfan ymwelwyr ynghyd â’r ‘Gweithdai Llusernau’, a bydd ‘Gorymdaith Llusernau’ yn nes ymlaen yn y prynhawn. Bydd ‘Sioe Troelli Tân’ arbennig yn codi’r cyffro cyn i’r sioe tân gwyllt bendigedig ddechrau.  Yr union amserau i’w cadarnhau. Dilynwch ni ar Facebook i gael rhagor o fanylion https://www.facebook.com/LlysYFranLake/. Neu ewch i’n gwefan https://llys-y-fran.co.uk/events/

The Fudge Foundry

Roedd y tîm yn Llys-y-frân wrth eu boddau i ennill Gwobr Croeso am ‘Ddarparydd Gweithgareddau/Profiadau y Flwyddyn’ y llynedd. Maent wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr eto eleni, ac yn gobeithio ei chipio hi unwaith eto. Cynhelir y gwobrau, sydd wedi eu trefnu gan Croeso Sir Benfro ar 2 Tachwedd yng Ngholeg Sir Benfro.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle