Gŵyl Fwyd a Diod gyntaf erioed Bae Abergwaun

0
644

Mae gwahoddiad i bawb i ŵyl fwyd a diod gyntaf Abergwaun i ddathlu’r holl fwyd blasus sy’n cael ei dyfu a’i goginio’n lleol.

O ddydd Sadwrn 21 Hydref hyd at ddydd Sadwrn 4 Tachwedd, ymunwch â ni ar gyfer gŵyl
sy’n llawn dathliadau teuluol o’r tir gyda stondinau bwyd, arddangosiadau gan gogyddion a
theatr stryd. I’r ifanc a’r ifanc eu calonnau. I’r rhai sy’n caru natur, ffermio a thyfu neu sydd wrth eu bodd yn bwyta, yfed a chael amser da gyda ffrindiau a theulu. Ymunwch â ni am Swper Cynyddol, dysgwch am Ddysgl Abergwaun (‘Fishguard Dish’) a dewch draw i’r her Cropian Cawl traddodiadol.

Esboniodd James, Cydlynydd y Digwyddiad ”rydym ni’n cynnal yr ŵyl Bwyd a Diod gyntaf
erioed yn Abergwaun, ac yn methu aros i chi ymuno â ni. Edrychwch ar y rhaglen lawn a
disgwyliwch i gael eich syfrdanu wrth i ni gyflwyno’r annisgwyl’.

Mae’r hwyl yn dechrau ar ddydd Sadwrn 21 Hydref rhwng 10am a 4pm gyda mynediad am
ddim i Ysgol Uwchradd Bro Gwaun lle byddwn yn dathlu cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn ein cymuned, yn samplu cynnyrch y caffi dros dro a fydd yn cael ei redeg gan fyfyrwyr ac yn mwynhau gwledd o sgyrsiau ac arddangosiadau coginio gan gogyddion lleol.

Fe’ch gwahoddir hefyd i ymuno â ni ar gyfer digwyddiad diod arbennig yn Ffwrn ar ddydd
Gwener 27 Hydref, 6pm tan 11pm lle bydd cynhyrchwyr cwrw, gwirodydd a gwin gwych o’r
ardal leol yn cyflwyno eu diodydd ac yn dweud eu hanes wrthych. Gallwch brynu a mynd â’ch hoff ddiod i ffwrdd hefo chi yn ogystal ag aros ar gyfer tapas, danteithion bychan ac adloniant byw.

Mae Dysgl Abergwaun (‘Fishguard Dish’) wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud. Bydd pob un o’r bwytai sy’n cymryd yn mynd at ffermwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr lleol i gael cynnyrch tymhorol er mwyn creu’r hyn sydd, yn eu barn nhw, yn adlewyrchu’r hyn sydd orau neu’n arbennig am ein hardal.

Mae rhywbeth i’r teulu cyfan gyda chystadleuaeth gelf i blant ar y thema ‘fy hoff fwyd’ ac
‘amser cynhaeaf yn Sir Benfro’, a thrwy gydol y pythefnos cynhelir arddangosfa am ddim yn Eglwys y Santes Fair, wrth i Abergwaun eich gwahodd i feddwl am sut mae bwyd a ffydd yn ymblethu.

Am weddill y rhaglen sy’n cynnwys 15fed Her Cropian Cawl y Ford Gron a Swper Cynyddol
Cylch y Merched ewch i https://visitfishguard.co.uk/fishguard-bay-food-and-drink-festival/
neu e-bostiwch info@visitfishguard.co.uk neu e-bostiwch Anne-Marie Harries ar
farmersfoodatghome@gmail.com neu ffoniwch hi ar 07960093716


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle