Mae Rygbi’r Scarlets wedi cyhoeddi y bydd yn parhau â’i bartneriaeth ag Elusennau Iechyd Hywel Dda, yr Elusen GIG leol, i gefnogi ymgyrch y Gronfa Ddymuniadau. Mae’r ymgyrch yn codi arian i greu atgofion hudolus i blant a phobl ifanc sy’n byw gyda chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd.
Ddydd Iau 5ed Hydref, dathlwyd y bartneriaeth newydd mewn digwyddiad ym Mharc y Scarlets lle bu teuluoedd a gefnogir gan wasanaethau Gofal Lliniarol Pediatrig y GIG ar daith o amgylch y stadiwm, cyfarfod â chwaraewyr y Scarlets, a hyd yn oed gymryd rhan mewn rhai ciciau ac ymarfer pasio!
Dywedodd Heulwen, a fynychodd y diwrnod gyda’i mab Jake: “Roedd yn ddiwrnod hudolus ac roedd Jake wrth ei fodd i dderbyn crys a het wedi’i arwyddo. Wnawn ni byth ei anghofio.”
Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym wrth ein bodd bod y Scarlets yn cefnogi ein hymgyrch Cronfa Ddymuniadau.
“Mae’r Gronfa Ddymuniadau yn rhoi cyfleoedd i ni roi ychydig yn ychwanegol i’n cleifion a’n teuluoedd sydd y tu hwnt i wariant y GIG. Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau grŵp gwych a theithiau diwrnod i’r teulu, teganau chwarae therapiwtig i helpu cleifion ifanc i brosesu’r hyn y maent yn ei brofi, ac adnoddau llesiant i deuluoedd a brodyr a chwiorydd ifanc.
“Mae’n golygu y gallwn greu atgofion annwyl gyda’n gilydd.”
Dywedodd Jonathan Davies, Rygbi’r Scarlets: “Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o ymgyrch y Gronfa Ddymuniadau ac yn edrych ymlaen at weithio gydag Elusennau Iechyd Hywel Dda i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.
“Rydym yn gobeithio ysbrydoli pobl ar draws y rhanbarth i ymuno â ni a dod ag ychydig o lawenydd i’w bywydau. Rydyn ni eisiau eu helpu i greu atgofion gwych a fydd yn para am byth.”
Bydd ymgyrch y Gronfa Ddymuniadau yn gweld elusen y GIG a Rygbi’r Scarlets yn parhau i gydweithio i godi arian ar gyfer yr ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth am waith y tîm Gofal Lliniarol Pediatrig. Am ragor o wybodaeth neu i gefnogi’r ymgyrch, ewch i:
Y Gronfa Dymuniadau – Elusennau Iechyd Hywel Dda (gig.cymru)
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle