Mae prosiect cofnodi perfformiad ar draws 107 o ddiadelloedd yng Nghymru wedi cychwyn gyda’r uchelgais o wella effeithlonrwydd diadelloedd defaid Cymru. Rydym yn ymweld ag un o’r ffermydd sy’n rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru newydd Cyswllt Ffermio.

0
215
Capsiwn y llun: Bryn Hughes a Sarah Carr.

Mae angen i ddafad fod yn wydn i ffynnu ar dir sy’n codi i 590 metr ar gyrion mynyddoedd garw’r Rhinogydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae Bryn Hughes a Sarah Carr wedi bod yn ffermio’r daliad 541 hectar sy’n codi uwchlaw aber afon Mawddach ers mis Mawrth eleni, ar ôl symud o Sir Fynwy lle’r oeddent yn rhedeg diadell fasnachol ar lawr gwlad.

Ni allai amgylchedd y ddwy fferm fod yn fwy gwahanol ond cred y cwpl mai geneteg yw’r allwedd i ddatblygu diadell sydd wedi addasu’n dda i’r amodau yn Sylfaen.

Mae’r ddiadell yn cynnwys 900 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella a Cymreig wedi’u gwella x Aberfield a gawsant gyda’r fferm; mae ganddynt hefyd 200 o famogiaid masnachol a ddaeth gyda nhw o Sir Fynwy.

“Ni allwn o reidrwydd newid yr amodau i weddu i’r defaid ar fferm fynydd, felly fe benderfynon ni ganolbwyntio ar gynhyrchu anifail sydd mewn sefyllfa well i lwyddo yn yr amgylchedd hwn, yn enwedig o ran ymwrthedd i afiechyd,” eglura Sarah, sy’n cyfuno ffermio â’i gwaith fel milfeddyg locwm.

Gyda’r uchelgais hwnnw, gwnaethant gais i ymuno â Rhaglen Geneteg Defaid Cymru newydd i wella eu diadell fynydd yn eneteg trwy gofnodi perfformiad.

Bydd Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) yn cael eu defnyddio i wella nodweddion dethol, yn achos Bryn a Sarah i gynhyrchu mamog Gymreig galetach sy’n gallu pori ar y mynydd yn effeithlon, wyna yn yr awyr agored, magu oen sengl cryf, a gydag ymwrthedd i afiechyd.

“Rydym wedi nodi cryn dipyn o heriau amgylcheddol ac iechyd ar gyfer y ddiadell ers i ni symud yma. Mae poblogaethau mawr o drogod, sy’n cario nifer o glefydau a gludir gan drogod, yn ogystal â llyngyr a pharasitiaid mewnol eraill,”meddai Sarah.

“Trwy ddewis defaid sydd yn well o ran geneteg i ddelio â’r heriau hyn, dros amser rydym yn bwriadu lleihau’r angen am driniaethau, gan leihau’r risg o ymwrthedd i gyffuriau a faint o’r cynhyrchion hyn sy’n mynd i mewn i’r amgylchedd.”

Mae gwydnwch yn nod hefyd.

Roedd y ddiadell fynydd yn elwa o bori ar dir isel ychwanegol yn flaenorol, gan ganiatáu i’r nifer cymharol uchel o efeilliaid gael eu pesgi yno, ond mae Bryn a Sarah yn bwriadu cynhyrchu mamog galetach a all ffynnu yn Sylfaen trwy gydol y flwyddyn.

“Rydym angen defaid sydd eisiau byw ar y mynydd, gyda’r gallu i drosi tir pori garw yn effeithlon trwy gydol y flwyddyn heb aeafu,” meddai Bryn, sydd hefyd yn gweithio fel arbenigwr bîff a defaid yn Wynnstay.

Mae’r fferm yn cynnwys 63ha o dir pori ar lawr gwlad a’r gweddill yn dir pori garw ar y mynydd a’r ffridd, sef yr ardal rhwng y mynydd a llawr gwlad.

Defnyddiwyd hyrddod Cymreig Tal-y-bont ac Aberfield ond eleni maent am newid i ddefnyddio Hwrdd Mynydd Cymreig (math caled). Bydd gan hyrddod sy’n dod i Sylfaen Werthoedd Bridio Tybiedig (EBV) a byddant yn cael eu bridio’n lleol gan ddod i gysylltiad â throgod sy’n datblygu imiwnedd.

Maent hefyd yn bwriadu lleihau nifer yr efeilliaid yn y ddiadell fynydd sy’n ŵyna ym mis Mawrth, gan leihau’r gyfradd sganio i 115%, a chynhyrchu oen sy’n pwyso 32kg o bwysau byw adeg lladd.

Gyda’r arbenigedd sydd ar gael fel diadell Haen 1 yn Rhaglen Geneteg Defaid Cymru, bydd yr hyrddod hynny’n cael eu cyrchu’r hydref hwn.

Cyn hyrdda, bydd mamogiaid yn cael eu casglu, a 200 yn cael eu dewis i’w genoteipio, cofnodi eu pwysau a’u sgôr cyflwr i ffurfio’r ddiadell gnewyllol o famogiaid ble mae eu perfformiad yn cael ei gofnodi yn Sylfaen.

Yna, bydd genoteipio yr ŵyn y flwyddyn nesaf yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar Bryn a Sarah i benderfynu pa hyrddod a mamogiaid sy’n cynhyrchu’r ŵyn sydd fwyaf addas i Sylfaen.

“Nid oes gennym ddiddordeb mewn perfformiad unigol ond ym mherfformiad y ddiadell,” nododd Sarah.

“Dylai cadw diadell effeithlon fod yn uchelgais i bob ffermwr defaid, ond mae llawer o ddiffiniadau o effeithlonrwydd. I ni, mae’n golygu cael defaid sy’n gallu llwyddo yn eu hamgylchedd, gyda llai o ymyrraeth.”

Bydd lleihau colledion mamogiaid ac ŵyn hefyd yn lleihau effaith amgylcheddol y ddiadell, ychwanega. “Mae afiechydon a cholledion yn cynyddu’r effaith honno’n aruthrol. Y fferm fwyaf effeithlon yw un sy’n magu anifeiliaid iach.”

Dywed Sarah fod Rhaglen Geneteg Defaid Cymru yn rhoi “cyfle gwych” i ffermwyr defaid fesur a monitro eu diadelloedd.

Mae tri deg dau o ddiadelloedd newydd wedi’u recriwtio i bob un o’r ddwy haen, ac mae 40 o ddiadelloedd a oedd yn rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd blaenorol bellach yn rhan o’r rhaglen newydd hefyd.

Mae Haen 1 yn benodol i fridiau mynydd ac ucheldir tra bod Haen 2 ar gyfer bridiau penodol gan gynnwys Wyneblas Caerlŷr, Lleyn, Charmoise Hill a Romney.

Dywed Gwawr Williams, Pennaeth Geneteg Defaid Menter a Busnes, sy’n cyflwyno’r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, fod ffermwyr yn sylweddoli fwyfwy y manteision o wella eu diadell drwy eneteg.

Bydd diadelloedd sy’n cymryd rhan yn elwa o gymorth ariannol ar gyfer casglu data a chael cyngor ac arweiniad ar osod targedau cyraeddadwy ar gyfer gwella diadelloedd, cyfleoedd i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o bynciau gwahanol sy’n effeithio ar gynnydd geneteg, a chyfle i fod yn rhan o brosiectau ymchwil arloesol.

Bydd gan bob diadell gynllun gweithredu bridio, dogfen waith ddeinamig a fydd yn dilyn y ddiadell drwy’r prosiect, meddai Gwawr.

“Rydym yn casglu dangosyddion perfformiad allweddol cychwynnol a gwybodaeth am ddiadelloedd sy’n cymryd rhan, a byddwn yn nodi meysydd i’w gwella er mwyn canolbwyntio arnynt yn eneteg, ond hefyd meysydd a allai effeithio ar gynnydd geneteg megis materion iechyd sylfaenol ac yn y blaen, a helpu ffermwyr i wella’r rhain er mwyn cael y budd mwyaf.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle