Mae addasrwydd ffermydd mynydd Cymru i dyfu cnydau cynhyrchiol o de yn cael ei archwilio mewn astudiaeth fanwl sydd ar y gweill ym Mhowys.
Gwelodd Mandy Lloyd gyfle i ddefnyddio tir ar Cleobury Farm yn Heyope, Trefyclo, i dyfu’r cnwd uchel ei werth hwn i gynhyrchu incwm ychwanegol o’i 150 erw o dir mynydd.
Er bod te eisoes yn cael ei dyfu’n llwyddiannus yn y DU, credir mai dyma’r tro cyntaf i de gael ei dyfu ar fferm fynydd.
Fel llawer o ffermydd, mae gan Cleobury wahanol fathau o dir, felly mae penderfynu pa ardaloedd sydd fwyaf priodol ar gyfer plannu llwyni te, lle maent yn fwyaf tebygol o ffynnu a chynhyrchu’r cnwd gorau yn gamau cyntaf pwysig.
Mae Mandy’n gallu ymchwilio i’r rhain diolch i gyllid gan ‘Gyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio, sef menter newydd sy’n rhoi cyfle i ffermwyr a thyfwyr arbrofi eu syniadau a’u gwireddu.
Mae cant a deugain o lwyni te Camellia sinensis yn cael eu tyfu ar blotiau gwahanol o amgylch y fferm, gyda’r safleoedd hynny’n cael eu dewis trwy broses a elwir yn ddadansoddiad geo-ofodol, sy’n cynnwys asesu cysondeb y cnwd â lleoliadau daearyddol yn seiliedig ar ffactorau gan gynnwys hinsawdd, dwyster golau a nodweddion y pridd.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd tyfiant planhigion yn cael ei asesu a bydd nodweddion ffenoteipaidd megis uchder, lled, diamedr y coesyn ac arwynebedd dail yn cael eu cofnodi.
Dywed Mandy fod yna fwlch yn y wybodaeth am dyfu te yng Nghymru a’r DU yn gyffredinol gan ei fod yn gnwd newydd.
“Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar y wybodaeth bresennol, a gellid ei gymhwyso i gnydau newydd eraill,” meddai.
Bydd hyn yn fuddiol nid yn unig i’w busnes ond i eraill hefyd, ychwanegodd.
“Rydym yn ceisio arallgyfeirio cnydau gyda’r nod o wella proffidioldeb yn ein busnes amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd, gwella amrywiaeth a chynhyrchu cnwd o safon uchel yn yr hirdymor.”
Mae Mandy, sydd hefyd yn ffermio bîff a defaid, yn gobeithio y bydd tyfu’r cnwd hwn hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar fioleg y pridd, yn enwedig ar dir lle mae glaswellt yn brin.
Ar raddfa ehangach, mae hi hefyd yn gweld y potensial o ran lleihau faint o de sy’n cael ei fewnforio os gall tyfwyr yng Nghymru greu cyflenwad llwyddiannus ohono.
Mae Mandy’n awgrymu: “Mae angen cadwyn gyflenwi bwyd a diod leol sy’n gyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol, gan ddarparu cynnyrch maethlon, hirdymor i brynwyr.”
“Mae cadw elw’n lleol yn dod â buddion ehangach, gydag economi leol lewyrchus a mwy o wariant, gan arwain at fwy o gyflenwad a chyfleoedd swyddi pellach, gan greu cymunedau cydlynol.”
Datblygodd Cyswllt Ffermio y Cyllid Arbrofi i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb ym musnesau amaethyddol tra hefyd yn gwarchod yr amgylchedd.
Mae’r cyllid Arbrofi yn darparu cyllid ar gyfer ceisiadau prosiect llwyddiannus i fusnesau unigol neu grwpiau o hyd at bedwar busnes fferm a thyfwyr gan eu galluogi i arbrofi eu syniadau a’u gwireddu.
Agorwyd ffenestr ymgeisio newydd ar gyfer Cyllid Arbrofi ar 9 Hydref 2023 a bydd yn rhedeg tan 20 Hydref. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyd at £5,000 i helpu ariannu treialon ar y fferm sy’n arbrofi gyda syniadau newydd.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a gallu cwblhau eu prosiectau erbyn mis Ionawr 2025.
“Gellir defnyddio cyllid ar gyfer cymorth technegol, samplo, profi a threuliau rhesymol eraill megis y rhai sy’n ymwneud â llogi offer neu gyfleusterau arbenigol yn y tymor byr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect,” eglurodd Ms Williams.
Mae’r ffurflen gais ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, neu i gael y ddolen a gwybodaeth bellach cysylltwch â fctryout@menterabusnes.co.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle