Naid am Nawdd er budd eich elusen GIG

0
199
Yn y llun uchod gwelir: Yn y llun uchod: Tracy George, Prif Nyrs, Rebecca Richards, Uwch Brif Nyrs a Denise Davies, Nyrs Gyswllt Rhyddhau

Mewn partneriaeth â Skyline Events, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn cynnig cyfle i gefnogwyr blymio o’r awyr o unrhyw faes awyr cymwys mewn partneriaeth â Skyline Events. Mae hyn yn cynnwys 20 maes awyr ar draws y DU (gan gynnwys Abertawe).

 I gymryd rhan mewn Naid am Nawdd elusennol ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, bydd angen i chi dalu ffi gofrestru o £70 (sy’n daladwy’n uniongyrchol i Skyline wrth gofrestru) ac addo codi isafswm o £395 mewn nawdd i’n helusen. Pan gyrhaeddwch eich targed telir eich costau!

 Sylwch y gallwch ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda NEU gallwch ddewis codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol. Mae codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol yn golygu y bydd eich arian yn cael ei wario lle a phryd y mae ei angen fwyaf.

 Mae’n rhaid bod yn 16, a rhaid i rai dan 18 oed fod ag oedolyn sy’n cymryd rhan gyda nhw.

 Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Rydym yn gyffrous iawn am ein partneriaeth newydd gyda Skyline Events. Rydyn ni’n meddwl y bydd yn rhoi profiad gwirioneddol wefreiddiol i’n codwyr arian.

 “Os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu diwrnod cofiadwy wrth godi arian ar gyfer eich elusen GIG leol, beth am roi cynnig arni?”

 Am ragor o wybodaeth ac i archebu ar-lein ewch i:  https://booking.skylineskydiving.co.uk/book/y137dzlx?charity=99625&rf=1&siteid=4


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle