Mae rhoddion wedi ariannu hamper a radio DAB ar gyfer ward Bronglais

0
226
Yn y llun uchod: Staff Ward Y Banwy gyda Rosemary James (canol).

Mae rhoddion angladd er cof am Cled James wedi ariannu hamper a radio DAB ar gyfer Ward Y Banwy yn Ysbyty Bronglais.

 Prynodd Rosemary James, gwraig Cled, radio DAB a hamper o ddanteithion i staff fel diolch am y gofal a gafodd ei diweddar ŵr tra ar y ward.

 Dywedodd Rosemary: “Codais arian gan fy mod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i Ward Y Banwy fel diolch i’r staff a ddangosodd lawer o ofal ymroddedig a charedigrwydd i’m gŵr yn ystod wythnosau olaf ei fywyd.

 “Roeddwn i hefyd eisiau darparu rhywbeth i’r cleifion eraill i’w helpu i ymlacio a darparu rhai elfennau o fwynhad yn ystod eu harhosiad ar y ward.

 “Roedd fy ngŵr a chleifion eraill yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth gyda’r staff, ac ar ôl ymgynghori â’r ward, daeth i’r amlwg bod angen mwy o radios arnynt er mwyn iddynt allu darparu radio i gleifion unigol pe bai angen. Rhoddais hefyd hamper o ddanteithion bwytadwy i’r staff, fel diolch a chydnabyddiaeth o’u hymroddiad i’r ward a’u cleifion.”

 Dywedodd Darren Jones, Uwch Nyrs: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Rosemary James am roi radio DAB a hamper i Ward Y Banwy er cof am ei diweddar ŵr.

 “Maen nhw wedi rhoi gwên enfawr ar wynebau ein staff.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle