Senedd Cymru yn galw am gadoediad ar unwaith

0
469
By National Assembly for Wales from Wales - Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru CC BY 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=51725292

Senedd yn pleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza ac Israel

Mae Senedd Cymru wedi galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza ac Israel.

Heddiw (dydd Mercher 8 Tachwedd) bu Aelodau’r Senedd yn trafod cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru oedd yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza ac Israel i roi terfyn ar ymosodiadau echrydus ar sifiliaid diniwed.

Pasiodd y cynnig gyda 24 o blaid, 19 yn erbyn, ac 13 yn ymatal.

Ataliodd Llywodraeth Cymru ond cafodd aelodau meinciau cefn Llafur bleidlais rydd.

Roedd gwelliant hefyd wedi’i gyflwyno gan Grŵp y Senedd Ceidwadol, ac wedi’i gyflwyno ar y cyd gan ddau Aelod Seneddol Llafur, Alun Davies a Hefin David ond ni bleidleiswyd ar hwnnw.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS fod y Senedd wedi cymryd safiad “dros ddynoliaeth”.

Wrth ddiolch i’w gyd-aelodau Senedd o’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol a bleidleisiodd o blaid y cynnig, dywedodd Mr ap Iorwerth fod Cymru wedi gwneud “datganiad mawr dros heddwch”.

Wrth siarad ar ôl y ddadl, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,

“Rydyn ni ar ein gorau fel seneddwyr pan rydyn ni’n siarad â llais unedig. Yn anffodus, i ormod heddiw, rydyn ni hefyd yn llais i’r di-lais.

“Yn yr ysbryd hwnnw y ceisiwyd cefnogaeth drawsbleidiol i’r cynnig hwn gyda galwad glir a diamwys am gadoediad o’r ddwy ochr fel rhagflaenydd i drafodaethau heddwch, diwedd uniongyrchol a pharhaol i drais a marwolaeth dinasyddion diniwed yn Israel a Phalestina, ac ymdrech fyd-eang i leddfu’r dioddefaint dyngarol yn Gaza.

“Rwy’n falch bod ein Senedd heno, sy’n cynrychioli pobl ein cenedl, wedi cymryd safiad dros ddynoliaeth.

“Rwy’n rhoi fy niolch o galon i bawb o bob rhan o’r pleidiau gwleidyddol, gan gynnwys aelodau Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, a gefnogodd y cynnig heddiw.

“Tra bydd rhai yn amau cryfder galwad senedd unigol am gadoediad, gall Cymru, yn yr awr hon o arswyd dywyll hon, fod yn genedl fach yn gwneud datganiad mawr dros heddwch.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle