Grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i fwy na 100 o grwpiau cymunedol yng Nghymru

0
191
caewern

Mae 125 o grwpiau cymunedol yn rhannu mwy na £4.75 miliwn mewn grantiau y mis hwn, o’r cyllidwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yng Nghymru, sef Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae mwy na 100 o’r grantiau yn dod o raglen grantiau fwyaf poblogaidd y Gronfa – Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ac maent yn cynnwys:  

·        £9,980 i Blind in Business Trust i gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith dan oruchwyliaeth i bobl ifanc ddall a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg rhwng 13 ac 16 oed yng Nghaerdydd 

·        £3,451 i Y Ffrindiau Dysynni Dogs The Friends yng Ngwynedd, gan ddod â phobl ynghyd i gynnal y cae cymunedol ym Mryncrug 

·        £3,400 i Gymdeithas Gymunedol Caewern yng Nghastell-nedd Port Talbot, i fynd i’r afael ag unigrwydd ac effeithiau’r argyfwng costau byw drwy gynnig gweithgareddau wythnosol. 

Derbyniodd Cymdeithas Gymunedol Caewern yng Nghastell-nedd Port Talbot £3,400 i gynnal amrywiaeth o weithgareddau wythnosol ar gyfer eu cymuned. Mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio’n benodol ar drigolion sy’n wynebu caledi ariannol, yn profi effeithiau parhaus y pandemig a phobl sydd wedi’u hynysu neu sy’n dioddef gyda’u hiechyd meddwl neu gorfforol. Darperir bwyd ym mhob sesiwn. 

Esboniodd Louisa M., cyfranogwr pam ei bod yn mynychu:  

Mae’r sesiynau hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl hen ac ifanc yn y gymuned hon. Hebddyn nhw, mae pobl wedi rhannu gyda mi pa mor ynysig ac unig maen nhw’n gallu teimlo. Yn bersonol, rwyf wedi mynychu sesiynau gyda fy mab a fy ŵyr, ac mae wedi rhoi cyfle i ni wneud pethau a phrofi pethau na fyddem byth yn gallu eu gwneud fel arfer!” 

Dysynni Dogs

Mae Y Ffrindiau Dysynni Dogs The Friends yng Ngwynedd yn dod â phobl ynghyd i gynnal y cae cymunedol ym Mryncrug gyda’u grant £3,451. Mae’r cae’n cael ei ddefnyddio’n dda gan grwpiau cymunedol i ddarparu gweithgareddau cymdeithasol i’r gymuned gyfan. Dywedodd Dilys Williams, Ysgrifennydd: 

“Mae’r Cae Cymunedol yn Y Ganolfan, Bryncrug, yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan lawer o grwpiau, megis dosbarthiadau ar gyfer Cŵn Dysynni, Ffermwyr Ifanc a’r Clwb Ieuenctid lleol, yn ogystal ag ar gyfer Digwyddiadau Cymunedol fel y Ffair Wledig Flynyddol a Noson Tân Gwyllt. 

“Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gallwn wneud cymaint mwy. Mae aelodau Y Ffrindiau yn aros yn rheolaidd ar ôl dosbarthiadau i wneud gwaith fel torri perthi a gwair.  Mae ymwelwyr digwyddiadau’r cae yn dweud yn aml pa mor hyfryd yw’r lleoliad, sydd wedi’i amgylchynu gan fryniau. Rydym yn falch iawn bod aelodau Y Ffrindiau yn cynnal y cae ac yn ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y cyllid i’n galluogi i wneud hyn ar gyfer ein cymuned leol.” 

 

Mae Blind in Business Trust yn defnyddio eu grant £9,980 i gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith dan oruchwyliaeth i bobl ifanc ddall a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg rhwng 13 ac 16 oed yng Nghaerdydd.  

Dywedodd Dan Mitchell, Cyfarwyddwr Blind in Business, 

“Gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, gall Blind in Business hyfforddi pobl ifanc ddall ac sydd â nam ar eu golwg, nid yn unig i ddatblygu eu hyder, ond i rwydweithio â’i gilydd a datblygu eu huchelgeisiau ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Mae cefnogaeth o’r fath yn hanfodol i ni yng Nghaerdydd ac mae’r cyllid hwn yn drawsnewidiol i’r bobl ifanc, anabl rydyn ni’n eu helpu gyda’r cyfnod pontio o addysg i gyflogaeth.” 

 

Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:  

“Dyma rai o’r pethau anhygoel y mae mwy na 100 o grwpiau cymunedol ledled Cymru yn eu gwneud, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da.” 

 

O 15 Tachwedd, mae rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn newid fel y bydd grwpiau’n gallu ymgeisio am grantiau hyd at £20,000, y gellir ei wario dros ddwy flynedd. Am ragor o wybodaeth ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk    

Y mis hwn, mae’r Gronfa wedi dyfarnu £4,789,521 i 125 o brosiectau ledled Cymru, mae rhestr lawn ar gael yma (dolen)  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle