Tîm Her Arfordir Ceredigion yn codi dros £24,000 ar gyfer Uned Strôc Bronglais

0
200
Yn y llun: Ffion a'i chefnogwyr ar eu taith gerdded epig

Mae Ffion Evans o Aberystwyth a chriw o ffrindiau, aelodau o’r teulu a chydweithwyr –’Tîm Arfordirol Ceredigion’ – wedi codi dros £24,000 i Ward Ystwyth, Ysbyty Bronglais, drwy gerdded 60 milltir O Lwybr Arfordir Ceredigion mewn llai na 24 awr.

Cymerodd y daith gerdded epig, a ddechreuodd yn Aberteifi am 2pm ddydd Gwener 30 Mehefin, 21 awr 49 munud, gan orffen yn Ynyslas.

Dywedodd Ffion: “Fe wnaethon ni ymgymryd â’r her hon fel ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad i’r tîm cyfan ar Ward Ystwyth am y gofal parhaus a’r adsefydlu y mae fy Nhad yn ei dderbyn ar ôl dioddef strôc fawr ym mis Tachwedd 2022.

“Mae Dad yn parhau i fod yn glaf ar y ward ac mae pob aelod o staff – y timau Ffisios, Therapyddion Galwedigaethol, Iaith a Lleferydd – wedi darparu gofal ac adsefydlu rhagorol.

“Rydym am sicrhau bod cleifion y dyfodol yn cael mynediad at fwy fyth o gyfleoedd adsefydlu. Bydd offer newydd ar gyfer y ward yn cael eu prynu gyda’r arian a godir.”

Derbyniodd y tîm gefnogaeth wych ar hyd y daith gyda chefnogwyr yn ymuno â’r cerddwyr, yn eu cymeradwyo, yn anfon negeseuon o gefnogaeth ac yn eu bwydo trwy’r dydd a’r nos.

“Fe wnaeth hynny ein cadw ni i fynd trwy gydol yr her, ac roedd gweld wynebau cyfarwydd ar hyd y llwybr 60 milltir yn arbennig iawn,” meddai Ffion. “Ond, roedd tirwedd Llwybr yr Arfordir yn heriol iawn, ac roedd digon o goesau dolurus y diwrnod wedyn!

“Rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn rhan o rywbeth arbennig iawn. Hoffwn ddiolch i bob un person sydd wedi cyfrannu a chwarae rhan mewn unrhyw ffordd i’n helpu i godi cymaint o arian drwy’r her hon.

“Mae fy niolch mwyaf yn mynd i’r tîm ar Ward Ystwyth sy’n parhau i ddarparu gofal anhygoel i fy nhad – rwy’n mawr obeithio eu bod yn sylweddoli pa mor arbennig ydyn nhw, a faint o wahaniaeth maen nhw’n ei wneud i gleifion a’u teuluoedd sy’n mynd trwy gyfnod anodd.”

Yn ogystal â thaith gerdded Llwybr yr Arfordir, cynhaliwyd noson codi arian lwyddiannus ar 16 Mehefin yng Nghlwb Pêl-droed Penrhyncoch gyda swm anhygoel o £7,420 wedi’i godi ar y noson.

Dywedodd Beth James, Uwch Brif Nyrs ar Ward Ystwyth: “Bydd cleifion a staff am flynyddoedd i ddod yn elwa o’u haelioni, rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch enfawr i Ffion a Thîm Arfordir Ceredigion am eu gwaith codi arian anhygoel.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i

www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle