Dogn o gymysgedd cartref yn cynnig dewis rhatach na dwysfwyd ar fferm dda byw yng Nghymru

0
261
Richard Jenkins with homegrown forage

Mae dogn o gymysgedd cartref a luniwyd gyda chynhwysion o safon uchel ac sy’n cynnwys porthiant cartref wedi darparu dewis rhatach yn lle dwysfwyd a brynwyd i mewn i famogiaid cyfeb a gwartheg bîff ar fferm ucheldir ym Mhowys.

Yn draddodiadol, roedd Richard a Donna Jenkins wedi bwydo dwysfwyd protein 18% i famogiaid am hyd at chwe wythnos cyn ŵyna ac yn cadw eu gwartheg dan do ar borthiant cyfansawdd hefyd.

Ond, roedd prynu porthiant ar ffurf cyfansawdd yn ddrud ar £270 – £340 y dunnell ar brisiau 2021, ac nid oedd y porthiant hwnnw o reidrwydd yn addas i’r holl stoc.

Mae’r teulu Jenkins yn ffermio 49-hectar yn Upper Llifor yn Aberriw lle maent yn rhedeg diadell o 250 o famogiaid Llyn a Llyn x Texel a 50 o wartheg croes British Blue o wartheg llaeth.

Er mwyn lleihau costau cynhyrchu, gofynnwyd am gyngor yn ymwneud â newid o ddwysfwyd i ddogn o gymysgedd cartref a oedd yn gwneud gwell defnydd o’u byrnau mawr silwair glaswellt a silwair cnwd cyfan.

Gyda chymorth Elin Haf Williams, swyddog datblygu Cyswllt Ffermio, a hwylusodd y cais, cafodd Richard a phum ffermwr lleol arall fynediad at gyllid grŵp trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio i gael cynllun dogn.

Rhoddwyd y cyngor hwn gan James Hadwin, maethegydd defaid a bîff o Agriplan Cymru.

“Roedd y gwasanaeth yn hynod o werthfawr oherwydd roeddem yn gallu cael dadansoddiad manwl o’r porthiant oedd gennym ar y fferm,” eglura Richard, sydd hefyd yn gweithio oddi ar y fferm fel ffrwythlonwr.

“Cyfrifodd James ofynion pob grŵp o wartheg dros fisoedd y gaeaf ac ar gyfer y mamogiaid cyn ŵyna, i greu cynlluniau dogn addas.”

Llwyddodd y busnes i sicrhau arbedion o £40-£55 y dunnell yn niet y gwartheg. Roedd yn anoddach mesur arbedion yn y system ddefaid. Roedd mamogiaid a oedd yn cario un oen wedi cael 100g o rawn distyllwyr bythefnos cyn ŵyna a chafodd y mamogiaid a oedd yn cario gefeilliaid 500g y dydd o gymysgedd o haidd, soia a grawn distyllwyr dair wythnos cyn ŵyna, gyda’r rhai a oedd yn cario tri oen yn codi i 800g y dydd.

“Yn draddodiadol, bydd gefeilliaid sy’n cael eu bwydo wyth wythnos cyn ŵyna yn bwyta rhwng 30-40kg o ddwysfwyd, sy’n gweithio allan ychydig yn llai na £12 y famog @ £340 y dunnell,” meddai James.

“Gall hyn fod yn well na hanner trwy fonitro ansawdd y silwair a chyflwr y mamogiaid.”

Gwartheg Richard Jenkins

Argymhella James bod profion gwaed yn ddefnyddiol i wirio bod y diet yn ddigonol. “Mae hefyd yn lleihau’r nerfau o newid system.”

Mae mamogiaid Richard a Donna yn ŵyna dan do o 1 Mawrth am bedair wythnos, a byddant yn y sied yn yr wythnosau yn arwain at hynny – mis ar gyfer gefeilliaid a thripledi a’r rhai sydd angen ennill cyflwr a dwy neu dair wythnos ar gyfer mamogiaid sengl.

Y nod yw i famogiaid gyrraedd sgôr cyflwr corff o (BCS) 3.5 – 4 wrth sganio – mae canlyniadau sganio’r ddiadell ar gyfartaledd yn 180%.

Mae maeth digonol y famog yn ystod beichiogrwydd yn hanfodol ar gyfer goroesiad a hyfywedd pob oen sy’n cael ei genhedlu.

Gall fod yn gyfnod drud felly, gyda llygad craff ar eu costau cynhyrchu, edrychodd y teulu Jenkins ar system fwydo amgen.

“Bu i James lunio’r dogn ac fe wnaeth y mamogiaid yn dda iawn arno, ac roedd yn rhatach na dwysfwyd,” eglura Richard.

Prynwyd melin a chymysgedd i alluogi i ni gymysgu’r porthiant ar y fferm.

Ynghyd â silwair glaswellt a chnwd cyfan, roedd y dogn yn cynnwys mwydion india corn a betys siwgr a chydbwysedd o brotein a mwynau, gyda’r tripledi’n cael grawn gwenith distyllwyr a soia sy’n cynnwys llawer o brotein hefyd.

Gan fod y protein yn y byrnau mawr silwair a’r silwair cnwd cyfan yn gymharol isel, ar 12.3 a 9.7 yn y drefn honno, roedd yn rhaid cynyddu lefelau protein yn y diet yn ôl y dosbarth o stoc yr oedd y porthiant yn cael ei fwydo iddo.

“Ar y pryd, yn seiliedig ar argaeledd lleol, gellid gwneud hyn yn fwyaf cost effeithiol trwy ddefnyddio grawn gwenith distyllwyr ar gyfer gwartheg a chyfuniad o rawn distyllwyr a soia gyda llawer o brotein ar gyfer y defaid, ” eglura James. ” Mae grawn distyllwyr yn borthiant sy’n cynnwys llawer o brotein ac egni ac mae’n cynnal cydbwysedd yn y porthiant yn dda.”

Gyda’r system hon, mae’n hanfodol sicrhau bod digon o le ar gyfer bwyd i bob mamog.

“Y system fwydo sy’n pennu’r gofynion o ran gofod porthi ond yn yr achos hwn yn ddelfrydol mae angen 15cm y pen ar famau er mwyn sicrhau eu bod yn cael digon ac mae angen i’r porthiant gael ei gyflwyno’n dda ac yn ffres er mwyn sicrhau bod y famog yn derbyn da ,” meddai James .

O dan yr amgylchiadau gorau posibl gellir codi cymeriant deunydd sych i dri y cant o bwysau’r corff ac uwch, gan leihau’r angen am gymaint o gostau a phorthiant ychwanegol fesul mamog, ychwanega James.

Daliwyd arbedion cost yn y system bîff pan mae’r gwartheg yn y siediau dros y gaeaf hefyd.

Roedd gwartheg a oedd yn tyfu hyd at 300kg yn cael 12kg o silwair ar ffurf byrnau mawr, 1kg o rawn gwenith distyllwyr, 0.5kg cymysgedd india corn /SBP a mwynau’r pen y dydd.

Ar gyfer heffrod cyflo, sydd â gofyniad bach ar gyfer tyfiant, roedd y dogn dyddiol y pen yn cynnwys 28kg o silwair cnwd cyfan, 0.5kg o rawn gwenith distyllwyr a mwynau.

Mae James yn cynghori y dylai gwartheg sy’n tyfu gael eu pwyso’n rheolaidd i wirio’r ymateb i ddiet.

Yn Llifor Uchaf, mae ŵyn yn cael eu pesgi ar laswellt ac yn bennaf yn cael eu gwerthu i ladd i Kepak ym Merthyr Tudful.

Ar gyfer eu system bîff, mae Richard a Donna yn prynu lloi heffrod a fagwyd â bwced ac yn tyfu’r rhain i fridio ohonynt a’u lloia ar ôl tair blynedd i’w gwerthu fel buchod gyda lloi wrth eu traed, naill ai’n uniongyrchol o’r fferm neu drwy farchnad dda byw.

Wrth fyfyrio ar y cymorth a gafwyd drwy Cyswllt Ffermio, dywed Richard ei fod wedi galluogi’r busnes i dreialu system fwydo wahanol a arbedodd arian yn y pen draw. Mae Richard wedi cwblhau amryw o gyrsiau hyfforddiant drwy wasanaethau eraill sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio ar draws wahanol sectorau yn ogystal a derbyn cymorth gan fentor i adolygu asesiadau risg ar y ffarm.

“Mae’n rhaid i bob busnes fferm edrych ar ei gostau, mae beth bynnag y byddwch yn ei wario yn y pen draw yn dod oddi ar y llinell waelod.”

Mae gwneud gwell defnydd o borthiant cartref hefyd yn galluogi ffermydd i leihau eu hôl troed carbon. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael cyngor arbenigol drwy’r Gwasanaeth Cynghori, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol www.llyw.cymru/cyswlltffermioswyddogion


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle