Cylch Meithrin Felinfoel – y cyntaf yng Nghymru i ennill Safon Seren Aur am yr eildro yn olynol!

0
236

Cynllun Ansawdd Mudiad Meithrin yw Safonau Serennog. Bwriad cynllun Safonau Serennog yw annog cylchoedd i ddatblygu, arloesi a chodi ansawdd a safon eu gwasanaethau i blant bach a theuluoedd gyda safonau ar dri lefel gwahanol – Efydd, Arian ac Aur.

 

Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:

 

“Taith yw cynllun Safonau Serennog. Y bwriad yw rhoi cyfle i Gylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd Dydd a Chylchoedd Ti a Fi i symud ar hyd y llwybr tuag at y safon uchaf oll.”

Wrth ddathlu fe ddywedodd Mair Billington, Arweinydd Cylch Meithrin Felinfoel:

Mae’n fraint ac yn anrhydedd i dderbyn y wobr am yr eildro eleni fel cydnabyddiaeth o holl waith caled staff a phwyllgor y Meithrin sydd yn cyd-weithio’n galed fel un teulu mawr, er lles plant y gymuned a thu hwnt.”

Mae safon Seren Efydd yn cario statws safon arbennig yn ei hun, gan fod hynny’n cadarnhau’r hawl i gario enw a statws ‘Cylch Meithrin’ a’r disgwyliadau o ran polisi iaith y Cylch Meithrin. Mae pob Cylch Meithrin felly’n meddu ar Safon Seren Efydd.

Nod Mudiad Meithrin, a’r nod felly i bob un sy’n galw ei hun yn ‘Gylch Meithrin’, yw darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg o’r safon uchaf i bob plentyn waeth beth fo’i anghenion a’i gefndir. Mae’n rhaid cofio bod safon yn rhywbeth parhaus ac felly nid yw’n stamp cymeradwyaeth unwaith ac am byth.  Disgwylir felly i bob Cylch Meithrin ddilyn proses parhaus o hunanwerthuso, dysgu, addasu, a cheisio gwella, ac yna dechrau’r broses unwaith eto.  

Y Safon Seren Arian yw’r ail safon ansawdd. Mae hwn yn cael ei ddyfarnu i gylchoedd sydd yn dangos rhagoriaeth sydd uwchlaw’r safon efydd. Fel rheol mae’n cymryd o leiaf chwe mis i’r cylch gasglu deunyddiau sy’n cynnwys llu o fideos, lluniau a dogfennau i ddangos gwaith arbennig y cylch er mwyn cyflwyno portffolio llawn i’r panel ansawdd. Yna bydd y panel yn mynd trwy’r portffolio’n fanwl cyn dyfarnu’r Seren Arian i Gylch Meithrin yn gydnabyddiaeth eu bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel iawn.

Ac wedyn mae’r Safon Seren Aur, sef y safon uchaf.  Mae’r  safon Seren Aur  yn cael ei ddyfarnu i gylchoedd sy’n darparu gwasanaeth o’r safon uchaf posib ac uwchlaw’r gofynion safon Efydd ac Arian. Mae Cylch  Seren Aur yn flaenllaw ac yn arloesol ac yn cael ei adnabod gan Mudiad Meithrin fel darparwr gofal ac addysg o’r radd flaenaf. Mae cylchoedd safon Seren Aur yn enghreifftiau o ragoriaeth ac arfer da a bydd hynny ynddo’i hun yn cario bri arbennig.

Meddai Leanne Marsh:

“Mwynhaodd yr Arolygwyr eu hymweliad â Chylch Meithrin Felinfoel a bu canmoliaeth uchel sydd yn dyst o waith caled staff, teuluoedd a phwyllgor y cylch. Ar ben hynny, Cylch Meithrin Felinfoel yw’r cylch cyntaf yng Nghymru i dderbyn y safon seren Aur am yr eil dro yn olynol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle