Bwrdd Iechyd yn cytuno i sicrhau darparwr newydd ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol Cross Hands a’r Tymbl

0
191
Hywel Dda UHB - Paediatric consultation

 


Mewn cyfarfod eithriadol o’r Bwrdd heddiw (dydd Iau 14 Rhagfyr), cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y dylid cynnal ymarfer caffael ffurfiol i sicrhau darparwr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol newydd i ddarparu gofal i boblogaeth gofrestredig bresennol meddygfeydd Cross Hands a’r Tymbl.

Mae hyn yn dilyn y penderfyniad gan bartneriaid Partneriaeth Feddygol Cross Hands a’r Tymbl i ddychwelyd y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, a daw hyn i rym ddiwedd mis Mawrth 2024.

Bu’r Bwrdd yn ystyried adborth gan y cyhoedd a rhanddeiliaid ac argymhellion y Panel Practis Gwag, y mae ei aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr Llais a’r Pwyllgor Meddygol Lleol, ynghyd â swyddogion y bwrdd iechyd.

Cytunodd y Bwrdd hefyd, pe na bai’r ymarfer caffael yn nodi darparwr unigol addas ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o fis Mawrth 2024, y bydd ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r opsiynau eraill, gan gynnwys y posibilrwydd o symud cleifion cofrestredig i feddygfeydd cyfagos, neu i gymryd poblogaeth gofrestredig Cross Hands a’r Tymbl fel meddygfa a reolir gan y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd Dros Dro BIP Hywel Dda: “Rydym wedi gwrando ar gleifion meddygfeydd Cross Hands a’r Tymbl a’n rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys meddygfeydd cyfagos. Bydd ymarfer caffael ffurfiol nawr yn cael ei gynnal i sicrhau darparwr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol newydd i ddarparu gofal i gleifion cofrestredig.

“Ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y broses hon a phawb a roddodd o’u hamser i roi eu hadborth. Mae’n bwysig bod ein cymunedau’n cael cyfle i ymgysylltu a bod yn rhan o’r broses.”

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i rannu eu barn gyda ni. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i wrando ar ein poblogaethau lleol ac ymgysylltu â nhw a hoffem ddiolch i gleifion a rhanddeiliaid am eu rhan yn y broses.

“Fel sy’n arferol, gofynnodd y Bwrdd Iechyd, cyn y Panel Practis Gwag, am ddatganiadau o ddiddordeb i helpu i lywio’r broses y mae’r panel yn ei chyflawni. Daeth dau fynegiad o ddiddordeb i law’r Bwrdd Iechyd gan feddygfeydd cyfagos mewn derbyn y boblogaeth gofrestredig. Dyma hefyd yr opsiwn a ffafrir gan gleifion yn ôl yr adborth a gawsom.

“Bydd y bwrdd iechyd nawr yn symud ymlaen gyda phroses gaffael ffurfiol yn dilyn penderfyniad heddiw gan y Bwrdd. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a staff Partneriaeth Feddygol Cross Hands a’r Tymbl i gynnal gwasanaethau diogel ac effeithiol i gleifion ac rydym yn ddiolchgar iddynt am eu hymdrechion parhaus yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.

“Byddwn yn ysgrifennu at gleifion cofrestredig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y penderfyniad a wnaed gan y Bwrdd heddiw a byddwn yn sicrhau bod ein cymuned yn cael gwybod am y broses barhaus hon.”

I weld papur y Bwrdd a gwylio’r cyfarfod bwrdd eithriadol, ewch i https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2023/cyfarfod-bwrdd-cyhoeddus-eithriadol-14-rhagfyr-2023/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle