Mae taith gerdded noddedig wedi codi £5,000 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili.
Trefnodd Chloe Pritchard y daith gerdded o Gaffi T1 yn Llanelli i Borth Tywyn ac yn ôl eto er cof am ei chwaer, Debbie Hall Quinlan, i ddiolch am y gofal a gafodd yn yr ICU.
Dywedodd Chloe: “Cawsom ddiwrnod gwych yn cerdded o Lanelli i Borth Tywyn ac yn ôl eto ym mis Ebrill.
“Roedd gymaint o bresenoldeb gyda llawer o bobl yn cymryd rhan. Roedd ychydig o’r daith yn heriol gyda’r glaw, ond fe wnaethom ni cyrraedd y diwedd!
“Diolch i bawb a gymerodd ran, pawb a gyfrannodd, yr holl gwmnïau a noddodd wobr raffl, Morgan Marine o Landybie am gyfrannu £250, a Brecon Carreg am noddi’r dŵr.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle