Parc Ynni Bryn Cadwgan Adroddiad cwmpasu wedi’i gyflwyno i PEDW

0
272

Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) wedi derbyn yr adroddiad Cwmpasu ar gyfer Parc Ynni Bryn Cadwgan, a gynigir ar hyn o bryd ar ffiniau siroedd Caerfyrddin a Cheredigion.

Daw hyn wrth i’r cyfnod ymgynghori anffurfiol ar y cynigion ddod i ben ar 30 Tachwedd. Yn ystod yr ymgynghoriad mae Galileo, sydd yn arwain ac yn ariannu’r prosiect, wedi cyfarfod â chynrychiolwyr gwleidyddol lleol, ac wedi cynnal dau ddigwyddiad galw heibio ddechrau mis Tachwedd, yn Llanddewi Brefi a Phumsaint a fynychwyd gan 170 o bobl. Derbyniwyd bron i 200 o ddarnau o adborth gan sefydliadau, grwpiau a thrigolion lleol, sy’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd.

 Dywed Leslie Walker, Uwch Reolwr Prosiect yn Galileo: 

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni dros y ddau fis diwethaf. Mae’r adborth a dderbyniwyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni, wrth i ni barhau i symud ymlaen â’n cynlluniau rhwng nawr a’r cyfnod ymgynghori statudol, y disgwylir iddo ddigwydd yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

“Yn y flwyddyn newydd, byddwn yn cynnal rhagor o asesiadau technegol manwl gan gynnwys tirwedd, sŵn, trafnidiaeth, treftadaeth ddiwylliannol, mawn ac ecoleg ac astudiaethau rhywogaethau a warchodir. Bydd canfyddiadau’r astudiaethau hyn ynghyd ag adborth y gymuned a rhanddeiliaid yn helpu i lunio ein cynigion terfynol.”

Mae rhagor o wybodaeth a dolen i’r adroddiad Cwmpasu ar gael ar wefan y prosiect: bryncadwganenergypark.co.uk.

Wrth gyflwyno’r adroddiad mae Galileo yn gofyn i PEDW am ei farn ar sgôp a lefel manylder yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y Datganiad Amgylcheddol a fydd yn rhan o’r cais Cynllunio.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle