Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) Cymru yn rhan o UCM y DU, sef cyd-ffederasiwn o 600 o undebau myfyrwyr ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Drwy ein haelodau, rydym yn cynrychioli, yn ymgyrchu ar ran ac yn cefnogi buddiannau dros 350,000 o fyfyrwyr yng Nghymru a saith miliwn o fyfyrwyr ledled y DU.
Gan weithio gyda 95 y cant o’r holl undebau myfyrwyr addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru, ein prif ddiben yw amddiffyn, hyrwyddo ac ymestyn hawliau myfyrwyr i wneud gwir wahaniaeth i’w profiad addysgol. Ein hamcan yw gwlad lle gall pawb fanteisio ar addysg a ffynnu mewn addysg, waeth beth fo’u cefndir, a chymdeithas lle mae myfyrwyr yn cael eu gwerthfawrogi fel dinasyddion cyfrannog.
Gan weithio gyda chydweithwyr yn Belfast, Caeredin a Llundain, rydym yn hyrwyddo lleisiau myfyrwyr i lunio dyfodol addysg a byd tecach a gwell.
Drwy ein timau yng Ngwasanaethau UCM ac Elusen UCM, rydym yn helpu’r undebau myfyrwyr hynny sydd mewn aelodaeth i ddatblygu ac adeiladu undebau myfyrwyr effeithiol ar gyfer pob dysgwr. Gan weithio gyda phartneriaid masnachol, megis Endsleigh a OneVoice , rydym yn sicrhau bod arian myfyrwyr yn cael ei ail-fuddsoddi ym mudiad y myfyrwyr.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle