Mae datblygiad diwydiannau creadigol Cymru yn cael ei gydnabod yn helaeth fel un o lwyddiannau economaidd mawr y wlad, ac mae darlledu’r ddrama newydd ‘Men Up’ heddiw (dydd Gwener, 29 Rhagfyr), yn uchafbwynt priodol ar gyfer blwyddyn lwyddiannus arall.
Cafodd y ddrama ei hysbrydoli gan stori wir am un o dreialon meddygol cyntaf y byd ar gyfer y cyffur a aeth yn ei flaen i fod yn Viagra, ac roedd cymorth gan Cymru Greadigol yn helpu i sicrhau bod sgript yr awdur, Matthew Barry, yn dod yn fyw yng Nghymru gyda chast brith o sêr talentog o Gymru, gan gynnwys Joanna Page, Iwan Rheon a Steffan Rhodri.
Mae Men Up yn un o chwe drama wreiddiol o Gymru a gafodd gymorth gan Cymru Greadigol eleni i gael eu darlledu ar y BBC. Gweithiodd wyth o hyfforddeion ar y prosiect, ac maen nhw ymhlith y bron i hanner cant o bobl a gafodd gyfle i ymuno â’r diwydiant yn 2023, diolch i ddramâu eraill gan gynnwys Steeltown Murders a Wolf – yn ogystal â diweddglo Sex Education ar Netflix.
Mae Cymru Greadigol, asiantaeth Llywodraeth Cymru a sefydlwyd i harneisio pŵer diwydiannau creadigol Cymru, wedi cynhyrchu £208.7 miliwn enfawr i economi Cymru ers ei sefydlu yn 2020, drwy fuddsoddi cyllid cynhyrchu gwerth £18.1 miliwn i gefnogi 37 o brosiectau.
Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer y sectorau a gefnogir gan Cymru Greadigol yn dangos bod y rhan hon o’r economi yn cyflogi tua 32,500 o bobl, yn ogystal â gweithlu llawrydd sylweddol. Yn 2022, cynhyrchodd y sector drosiant blynyddol trawiadol o £1.4bn.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: “Byddai’n dwp peidio â chefnogi ein diwydiannau creadigol, pan fydd yr arian ar gyfer y sector sgrin yn unig yn rhoi £11 i economi Cymru ar gyfer pob punt rydyn ni’n ei buddsoddi – ac er bod y flwyddyn wych hon ar gyfer y diwydiannau creadigol bellach wedi dod i ben, mae gennyn ni gymaint i edrych ymlaen ato fe yn 2024.
“Yn gyntaf, bydd ail gyfres House of the Dragon, gyfres gan HBO sydd wedi ennill gwobrau, yn rhuo yn ôl i’r sgrin fach ar ôl ffilmio ar draws wyth lleoliad yn Ynys Môn a Gwynedd. Gallwn hefyd edrych ymlaen at ddrama newydd gan Michael Sheen o’r enw The Way, a Lost Boys and Fairies sy’n adrodd hanes cwpl wrth iddyn nhw fabwysiadu plentyn.”
Mae buddsoddiadau gan Cymru Greadigol yn helpu i sicrhau bod Cymru yn lleoliad mwy deniadol i gynyrchiadau rhyngwladol – a gyda’r gwaith ar y cynhyrchiad cyntaf erioed yn Stiwdios Aria ar Ynys Môn yn dod i ben yn ddiweddar, mae rhagor o ddiddordeb yng Ngogledd Cymru fel rhanbarth.
Mae Cymru Greadigol hefyd yn targedu buddsoddiadau ym meysydd cerddoriaeth, gemau, technoleg ddigidol, cyhoeddi ac animeiddio.
Cafodd The Rubbish World of Dave Spud ei chreu gan Illuminated Film gyda chymorth gan yr animeiddwyr o Gaerdydd, Cloth Cat. Darlledwyd y drydedd gyfres ar CITV ym mis Gorffennaf ac roedd y cast yn cynnwys enwogion fel Johnny Vegas a Jane Horrocks.
Yn ogystal, cafodd Kensuke’s Kingdom, ffilm wedi’i hanimeiddio â llaw a oedd yn bartneriaeth rhwng yr animeiddiwr o Gymru Bumpybox a Lupus Films, y fraint wych o gael ei henwebu ar gyfer gwobr Cristal am y Ffilm Hir Orau yng Ngŵyl Ffilm Animeiddio Ryngwladol Annecy eleni.
Mae uchafbwyntiau eraill eleni yn cynnwys cwmni gemau arbenigol o’r Unol Daleithiau, Rocket Science, yn cyhoeddi y byddai’n sefydlu ei stiwdio newydd yng Nghaerdydd, gan greu 50 o swyddi medrus â chyflog uchel ar gyfer graddedigion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant gemau.
Gwnaethon ni barhau i hyrwyddo’r sector cerddoriaeth hefyd yn 2023, gyda Cymru Greadigol yn buddsoddi £140k o gyllid refeniw mewn labeli cerddoriaeth a busnesau rheoli, a chefnogi digwyddiadau fel Gwobr Gerddoriaeth Cymru, Wythnos Lleoliadau Annibynnol ac arddangosfa Gorwelion Cymru yng Ngŵyl The Great Escape, Brighton.
Yn y cyfamser, arweiniodd cymorth gan Gyngor Llyfrau Cymru at y daith fasnach gyntaf i 75fed Ffair Lyfrau Frankfurt gydag 13 o gyhoeddwyr a sefydliadau o Gymru yn mynd i un o’r ffeiriau masnach ryngwladol uchaf ei phroffil yn y byd.
Hefyd, ar ôl i Gymru fod yn wlad beilot ar gyfer Cynllun Trawsnewid y Fargen Sgrin Newydd, bydd cyllid Llywodraeth Cymru, drwy Cymru Greadigol, nawr yn dechrau annog stiwdios Cymru i ymuno â’r Safon Stiwdio Gynaliadwy a chychwyn ar y llwybr tuag at ddyfodol cynaliadwy i’r diwydiannau ffilm a theledu pen uchel.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: “Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i’r diwydiannau creadigol, ac rwy’n falch iawn bod Cymru yn parhau i ddangos ei bod yn lle gwych i fyw, gweithio, ymweld ag ef a buddsoddi ynddi.
“Rwy’n gwybod y bydd Cymru Greadigol yn parhau i weithio’n agos gyda’r sector hwn yng Nghymru i ddarparu’r cymorth a fydd yn helpu i sicrhau bod ganddo ddyfodol bywiog, cynaliadwy ac iach.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle