Prosiectau adfywio Treforys a Chaerfyrddin yn cael eu canmol gan y Senedd

0
223

Mae Aelodau o’r Senedd wedi canmol prosiectau lleol yn Nhreforys a Chaerfyrddin fel enghreifftiau ysbrydoledig o ymdrechion lleol i adfywio canol trefi.

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw, dydd Iau 25 Ionawr 2024, gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd yn edrych ar sut mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i adfywio canol trefi yn gweithio ledled Cymru.

Gwelodd y Pwyllgor enghreifftiau cadarnhaol o brosiectau sydd ar waith i adfywio stryd fawr Treforys, a chynlluniau i drawsnewid hen adeilad Debenhams yng nghanol Caerfyrddin. Ond, mae’r darlun ledled Cymru yn anghyson, ac mae’r Pwyllgor yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i sicrhau bod pobl sy’n ymwneud ag adfywio canol trefi, o awdurdodau lleol i grwpiau cymunedol, yn teimlo’n hyderus i wneud penderfyniadau mawr sy’n briodol i’w hardaloedd.

Mark Isherwood AS MS “Roedd yn hynod braf ymweld â Threforys, Chaerfyrddin, Yr Wyddgrug a Wrecsam yn ystod yr ymchwiliad hwn. Roedd yn bleser clywed am y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud, ond roedd yn sobr clywed am yr heriau yr oedd pob lleoliad hefyd yn eu hwynebu,” meddai Mark Isherwood AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru sbarduno a chyflawni gweledigaeth newydd ar gyfer ein strydoedd mawr. Mae hynny’n golygu darparu system drafnidiaeth sy’n syml ac yn hawdd ei defnyddio; system drethu ddiwygiedig ar gyfer busnesau; cymhellion ariannol i annog busnesau newydd; a dull newydd o fynd i’r afael ag eiddo gwag sy’n difetha canol ein trefi.

“Yn bennaf oll, rhaid grymuso awdurdodau lleol, cynghorau tref a grwpiau cymunedol i wneud penderfyniadau mawr sy’n briodol i’w hardaloedd, a rhaid sicrhau y bydd adnoddau ac arbenigedd ar gael ar bob lefel. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi’r hyder hwn i bobl, os yw Cymru am gyflawni’r adfywio sydd mor fawr ei angen ar ganol ein trefi.”

PAPA Town Centre Report - Caerfyrddin Carmarthen Bu’r Pwyllgor yn clywed am gynlluniau i ddatblygu hen adeilad Debenhams yng nghanol Caerfyrddin.

Fe wnaeth aelodau o’r Pwyllgor gwrdd â swyddogion o Gyngor Sir Caerfyrddin yn hen siop Debenhams, cartref Hwb newydd Caerfyrddin. Mae’r adeilad gwag yn cael ei drawsnewid yn hyb hamdden sy’n dod â gwasanaethau iechyd, llesiant, dysgu a diwylliannol i gyd o dan yr un to, ac mae’n darparu cymysgedd o wasanaethau ochr yn ochr â siopau ar y stryd fawr.

Yn Nhreforys, aethon nhw am dro ar hyd Woodfield Street i ddysgu am y newid yn y darlun o fusnesau ar y stryd fawr. Gwnaethant ymweld hefyd â Chapel Tabernacl Treforys a Chanolfan y Galon Gysegredig, y mae’r ddau ohonynt yn cael eu defnyddio fel adnodd cymunedol ar gyfer grwpiau cymunedol lleol.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar sut y gall gyflawni adfywio canol trefi yn well ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, a bydd yn cael ei drafod gan y Senedd gyfan maes o law.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle