Arddangosfa newydd Graham Brace yn arddangos dau ddegawd o ddarluniau’r Parc Cenedlaethol

0
244
Caption: Art in the Park features large detailed aerial views, supported by smaller drawings of features of interest at each location.

Mae arddangosfa newydd yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi yn dwyn ynghyd, am y tro cyntaf erioed, werth dau ddegawd o ddarluniau gwreiddiol gan Graham Brace, arlunydd/darlunydd o Langwm.

Mae Celf yn y Parc yn cynnwys darluniau sydd i gyd wedi cael eu comisiynu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan ymddangos ar baneli gwybodaeth a thaflenni i helpu ymwelwyr i archwilio’r ardal a deall mwy am rinweddau arbennig y Parc.

Yn ogystal â dangos lleoliadau eiconig o amgylch Sir Benfro, mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys darluniau mawr o olygfeydd manwl o’r awyr, wedi’u hategu gan ddarluniau llai o nodweddion diddorol ym mhob lleoliad.

Capsiwn: Mae Graham Brace o Langwm wedi cynhyrchu amrywiaeth o ddarluniau ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro dros y ddau ddegawd diwethaf.

Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Deilliodd y syniad ar gyfer Celf yn y Parc o sgwrs a gafwyd tra oeddem yn cynnal arddangosfa o brintiau celf cyfyngedig Graham. Daeth hyd a lled ei berthynas hir ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’r amlwg, a’r ffaith ei fod wedi cadw’r holl waith celf yn ddiogel! Rydyn ni’n falch iawn o gynnig y cyfle hwn i weld gwaith gwreiddiol Graham yn y cnawd.”

Gan dynnu sylw at y rôl bwysig mae darluniau yn ei chwarae wrth gyflwyno gwybodaeth, ychwanegodd Graham Brace: “Rwy’n gobeithio bod yr arddangosfa hon yn dangos y gellir defnyddio celf fel addurn, ond hefyd mewn modd ymarferol a llawn gwybodaeth.”

Bydd arddangosfa Celf yn y Parc gan Graham Brace i’w gweld yn Oriel y Parc tan ddydd Sul 25 Chwefror. Bydd yr arddangosfa ar agor bob dydd, rhwng 9.30am a 4.30pm, a bydd detholiad o brintiau celf cyfyngedig hefyd yn cael eu harddangos.

Mae rhagor o wybodaeth am arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau yn Oriel y Parc ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle