Rhoddion elusennol yn ariannu sganiwr llygaid newydd ar gyfer Ysbyty Glangwili

0
140

Diolch i roddion hael i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae sganiwr llygaid newydd gwerth £14,250 wedi’i brynu ar gyfer Ysbyty Glangwili.

Defnyddir y sganiwr newydd i gymryd mesuriadau llygaid cyn llawdriniaeth i sicrhau cywirdeb lensys a mewnblaniadau.

Bydd yr offer yn darparu lefel uwch o wasanaeth i gleifion yn ystod yr asesiad ymlaen llaw ar gyfer llawdriniaethau fel llawdriniaeth cataract, yn enwedig y rhai sy’n fregus ac yn llai symudol.

Dywedodd yr Uwch Brif Nyrs, Casey Griffiths: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion elusennol wedi ein galluogi i brynu’r sganiwr newydd.

“Mae Uned Llygaid Tysul o fudd gwirioneddol i gleifion sy’n llai symudol – er enghraifft, y rhai sydd â phroblemau gwddf a chefn – gan y gallen nhw ei chael hi’n anodd defnyddio’r offer safonol eistedd o fewn yr uned.

“Bydd y sganiwr newydd yn ein helpu i gynnal clinigau cyn-asesu mor effeithiol â phosibl ac yn sicrhau’r canlyniad gorau posibl i gleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle