Ysgol Lwyfan Sa15 yn codi dros £3,000 ar gyfer uned cemotherapi

0
169

Mae Ysgol Lwyfan SA15 yn Llanelli wedi codi dros £3,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Mae Ysgol Lwyfan SA15 yn ysgol lwyfan gymunedol gyda dros 200 o aelodau rhwng 4 a 18 oed.

Fe wnaethant gyfrannu elw o raffl ar-lein ac arwerthiant yn eu sioe ddiweddaraf yn Theatr y Ffwrnes i’r Uned Ddydd Cemotherapi er cof am Wayne Evans.

Roedd Wayne yn codi arian yn angerddol at yr uned cemotherapi fel diolch am y gofal rhagorol a gafodd, a chwblhaodd ras 5k Cymru ar y Penwythnos Cwrs Hir gyda thîm o deulu a ffrindiau ym mis Gorffennaf 2023. 

Dywedodd Jed a Vicky Davies, perchnogion Ysgol Lwyfan SA15: “Pob sioe rydyn ni’n ei gwneud, rydyn ni’n ceisio codi arian i elusen sydd wedi cefnogi rhywun sy’n agos at SA15.

“Yn drist iawn, collodd Olivia, aelod o SA15, ei thad, Wayne. Gwnaethom siarad â’r teulu a dweud y byddem yn hoffi codi arian ar gyfer elusen o’u dewis. Dewisasant yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip gan fod Wayne yn derbyn gofal a chymorth gwych yno.

“Cawsom ein synnu ar yr ochr orau gan yr haelioni a ddangoswyd gan y rhai a gyfrannodd wobrau ac a gefnogodd ein digwyddiad codi arian trwy brynu tocynnau a chynnig ar yr arwerthiant. Yn sicr, gwobrwywyd ein hymdrechion gan y swm terfynol a godwyd.

“Hoffem ddiolch i bob unigolyn a busnes a gyfrannodd yn garedig gyda gwobrau ar gyfer ein rafflau a’n ocsiwn a hefyd i bob person a brynodd docyn neu gynnig yn ein harwerthiant.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle