‘Bydd Siarter Budd-daliadau Cymru yn ei gwneud yn haws i bobl hawlio’r hyn y mae ganddyn nhw’r hawl i’w gael’, meddai’r Gweinidog

0
325
Minister for Social Justice and Chief Whip Jane Hutt with Designated Member Sian Gwenllian at the Llanelli Customer Service Hwb

Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi addo bod “gan Siarter Budd-daliadau Cymru y potensial i fod o fudd i filoedd o bobl sy’n byw mewn tlodi”.

Nod Siarter Budd-daliadau Cymru yw ei gwneud hi’n haws i bobl hawlio eu holl gymorth ariannol drwy greu system fwy cydlynol – fel bod dim ond rhaid i berson adrodd ei stori unwaith i hawlio’r hyn y mae ganddo’r hawl i’w gael.

Mae’r Siarter wedi’i chymeradwyo gan bob un o’r 22 awdurdod lleol, a’i datblygu gyda’r nod o gefnogi’r bobl fwyaf difreintiedig.

Mae’r gwaith i ddatblygu System Budd-daliadau Cymru, gan gynnwys datblygu’r Siarter, yn gysylltiedig ag ymrwymiadau yng Nghytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru.

Ymwelodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, â Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli gyda Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, i weld gwaith y Siarter ar waith.

Mae’r Hwb yn darparu amrywiaeth eang o gymorth a chyngor ar faterion fel cyflogadwyedd, tai a gwasanaethau masnachu, gan gynnwys cefnogi trigolion i hawlio eu cymorth ariannol, fel budd-dal tai a bathodynnau glas.

Wrth siarad yn ystod yr ymweliad, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: “Lansio’r Siarter yw’r cam cyntaf ac nid diwedd y daith, ac rydyn ni’n gweithio i droi ymrwymiadau’r Siarter yn gamau gweithredu.

“Mae’n wych gweld enghraifft o ddull un stop yn gweithio yma yn Hwb Llanelli. Mae ganddo’r potensial i fod o fudd i filoedd o bobl sy’n byw mewn tlodi.

“Mae darparu cymorth a chyngor yn hanfodol i gefnogi pobl i hawlio eu cymorth ariannol ac i ddiwallu’r angen cynyddol am gyngor diduedd ac arbenigol.

“Hoffen ni weld y dull hwn yn cael ei roi ar waith ledled Cymru.”

Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru:  

“Drwy weithio ar y cyd, rydyn ni eisiau system sy’n darparu cymorth mewn ffordd dosturiol, amserol a hawdd ei llywio i bawb sydd angen cymorth.

“Mae rhoi’r unigolyn wrth wraidd y system a datblygu’r cymorth sydd ei angen arno yn hanfodol fel mater o degwch sylfaenol.

“Y Siarter yw man cychwyn ein cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu System Budd-daliadau i Gymru sy’n gynhwysfawr, gan sicrhau gwell cymorth i’r rhai sydd â hawl i gael cymorth a budd-daliadau yng Nghymru.”

Ers lansio’r Siarter fis diwethaf mae grŵp llywio allanol eisoes wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf.

Bydd y grŵp llywio, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector, yn datblygu ac yn goruchwylio’r gwaith o roi cynllun gweithredu ar waith. A hynny er mwyn sefydlu System Budd-daliadau i Gymru sy’n seiliedig ar ymrwymiadau’r Siarter.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle