Mae Urdd Gobaith Cymru yn diolch o galon i gefnogwyr am alluogi’r Mudiad i gynnig gwyliau haf i fwy nag erioed o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi neu dan amgylchiadau heriol.
Diolch i gyfraniadau gan unigolion, cymdeithasau, busnesau a chynghorau lleol at y gronfa ‘Cyfle i Bawb’ mi fydd modd i’r Urdd gynnig lle i 300 o blant a phobl ifanc difreintiedig ar Wersylloedd Haf y Mudiad eleni, o’i gymharu â 110 y llynedd.
Bob haf ers 2019 mae’r Gronfa wedi galluogi i gannoedd o blant a phobl ifanc difreintiedig i fwynhau gwyliau yng ngwersylloedd yr Urdd. Bu i’r Urdd ail-lansio apêl ‘Cyfle i Bawb – Gwersylloedd Haf yr Urdd’ ym mis Tachwedd a mwy na dyblu’r targed ar gyfer 2024 ar ôl derbyn y fwyaf erioed o geisiadau am wyliau haf drwy nawdd y Gronfa yn 2023.
Mae modd i rieni, gwarcheidwaid neu ysgolion lenwi’r ffurflen gais yma er mwyn gwneud cais am wyliau ar ran plentyn drwy nawdd y Gronfa. Dyddiad cau ceisiadau yw 19 Ebrill 2024.
Mae’r cyhoeddiad wedi’i groesawu gan rieni’r rheiny fynychodd Wersyll Haf llynedd drwy nawdd Cronfa Cyfle i Bawb.
“Roedd y ddwy ferch yn ddigon lwcus i gael gwyliau haf llynedd drwy gefnogaeth Cronfa i Bawb yr Urdd, ac maen nhw’n dal i siarad amdano heddiw!” meddai un rhiant, Emily Bolwell o Gasnewydd. “Roedd y merched wrth eu bodd yn gallu defnyddio eu Cymraeg tu allan i’r ysgol ac maen nhw wedi cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau newydd.”
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Diolch o waelod calon i’r holl gyfranwyr am gefnogi ein hymgyrch, a rhoi cyfle i fwy nag erioed o blant sy’n profi tlodi neu fywyd heriol i fwynhau yng Ngwersylloedd Haf yr Urdd eleni. Mae mynd ar wyliau haf yn rhywbeth mae rhai yn ei gymryd yn ganiataol, ond mae llawer o blant yng Nghymru yn byw mewn amgylchiadau lle nad oes cyfle i gael gwyliau haf.
“Mae’r Urdd – a’r Gymraeg – yn perthyn i bawb, ac mae’n bwysig i ni fel Mudiad i estyn allan a sicrhau bod cyfleodd ar gael ac yn cael eu cynnig i bob plentyn yng Nghymru. Diolch i garedigrwydd unigolion, cymdeithasau, busnesau a chynghorau lleol fel ei gilydd bydd modd i blant a phobl ifanc o deuluoedd incwm isel, o dan adain gwasanaethau cymdeithasol, gofalwyr ifanc a phlant maeth fwynhau gwyliau haf eleni.”
Bydd 19 o Wersylloedd Haf yn cael eu cynnal rhwng Gwersyll Glan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan a Chaerdydd yr haf hwn. Mae’r Gwersylloedd Haf yn cynnwys cwrs perfformio, cyrsiau llesiant, gwersylloedd i ddysgwyr yn ogystal â gwersylloedd antur a gwersylloedd haf traddodiadol i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed. Mae rhestr lawn o ddyddiadau Gwersylloedd Haf 2024 yr Urdd ar gael yma.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle