Mae darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith ledled Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth) eu bod am leihauâr toriad arfaethedig iâr rhaglen brentisiaethau.
Y bwriad yng nghyllideb ddrafft wreiddiol Llywodraeth Cymru oedd gwneud toriad o 24.5%, syân cyfateb i ÂŁ38 miliwn, gan olygu bod 10,000 yn llai o brentisiaid yn gallu dechrauâr flwyddyn nesaf.
Yn dilyn ymgyrch unedig o dan arweiniad Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a ColegauCymru, gyda chefnogaeth cyflogwyr ledled Cymru, mae ÂŁ5.25 miliwn wediâi roi yn Ă´l yn y gyllideb.
Er bod y toriad yn y cyllid yn dal yn her enfawr, maeâr NTFW, syân cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru, wedi croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi ailfeddwl, er mai o dan bwysau aruthrol yr oedd hynny.
âA hwythau’n dadlau’n gryf dros ddatblyguâr gweithlu, maeâr NTFW yn croesawuâr cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru am gyllid prentisiaethau,â meddai cyfarwyddwr strategol yr NTFW Lisa Mytton.
âWrth ailfeddwl fel hyn, maent yn cydnabod pwysigrwydd prentisiaethau o ran rhoi cyfleoedd hyfforddi gwerthfawr fel y caiff unigolion brofiad ymarferol a datblygu sgiliau arbenigol i ateb anghenion cyflogwyr ledled Cymru.
âRydym wedi mynnu oâr dechrau bod prentisiaethauân elfen hanfodol er mwyn adeiladu gweithlu medrus a chauâr bwlch sgiliau yn ein gwlad.
âMaeâr Ffederasiwn yn falch iawn bod yr holl amser a dreuliwyd yn lobĂŻo Gweinidogion ac Aelodauâr Senedd am fanteision prentisiaethau i unigolion a busnesau fel ei gilydd wedi dwyn ffrwyth.
âMae ein haelodau’n dal i wynebu heriau enfawr oherwydd y gostyngiad sylweddol yn y gyllideb. Er bod y rhagolygon ychydig yn fwy cadarnhaol naâr disgwyl, mae’n dal yn golygu y bydd llawer llai o bobl yn dechrau ar brentisiaethau y flwyddyn nesaf ac y bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn.
âRydym yn canmol Llywodraeth Cymru a Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething am wrando arnom ac adolygu eu cyllideb ddrafft wreiddiol.
Fodd bynnag, rydym yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn prentisiaethau cyn gynted â phosibl er mwyn parhau â’r rhaglen bwysig hon a chadwâr gweithlu arbenigol a phroffesiynol syân llywio datblygiad sgiliau yng Nghymru. Hyd yn oed ar Ă´l newyddion heddiw rydym yn gwybod bod darparwyr hyfforddiant yn cynllunio nifer sylweddol o ddiswyddiadau.
âRydym hefyd yn dymuno cofnodi ein gwerthfawrogiad oâr ffaith ein bod wedi cael cefnogaeth draws-bleidiol a chefnogaeth gan gyflogwyr Cymru ar gyfer blaenoriaethu cyllid prentisiaethau yn y gyllideb. Mae’n gyffrous meddwl am y potensial ar gyfer twf ac arloesi yma.
âGydaân gilydd, gallwn barhau i gefnogi datblygiad gweithlu medrus iawn syân sbarduno twf economaidd a ffyniant i bawb yng Nghymru.â
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle