Mae Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos a Dollies yn apelio am wyau Pasg a rhoddion ar gyfer eu taith wyau Pasg fis Mawrth hwn.
Cynhelir y daith wyau Pasg ar ddydd Sul 24 Mawrth.
Mae’r daith yn cefnogi gwasanaethau plant ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Action for Children.
Mae’r daith yn ddigwyddiad poblogaidd sy’n gweld cannoedd o feicwyr modur yn casglu ac yn dosbarthu wyau Pasg.
Bydd y daith yn cychwyn am 1:00pm ar 24 Mawrth ym maes parcio The Commons ym Mhenfro. Bydd y grŵp yn teithio trwy nifer o drefi de Sir Benfro.
Dywedodd Jenna Abbott, aelod o Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos a Dollies: ‘Mae’n wych gallu cynorthwyo’r GIG a Action for Children unwaith eto. Rydym yn gweld drosom ein hunain y gwahaniaeth y mae’n ei wneud ac rydym yn ddiolchgar i bawb sy’n gallu rhoi i ni.’
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn unwaith eto i Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos a Dollies am fynd gam ymhellach a thu hwnt i gefnogi gwasanaethau plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
“Ni allwn ddiolch digon iddynt am eu hamser, eu hymdrech a’u hymroddiad i godi arian. Os gallwch chi, cefnogwch y grŵp y Pasg hwn!”
I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau a lleoliadau casglu, cysylltwch â Ness ar 07971 774893 neu Grizz ar 07515 631554.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle
Don’t know why,but none of your fb posts showing pics;sure you’re aware of it…
Comments are closed.