Ar 40 mlynedd ers Diwrnod Dim Smygu yng Nghymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn atgoffa ysmygwyr sydd am roi’r gorau iddi y gall cymorth am ddim gan y GIG gynyddu eich siawns o lwyddo hyd at 300% o’i gymharu â mynd ar ei ben ei hun.
Mae dydd Mercher 13 Mawrth yn Ddiwrnod Dim Smygu ac ers 1984, mae cyfraddau ysmygu ymhlith oedolion Cymru wedi gostwng o 33% i 13%, sy’n golygu bod cannoedd o filoedd o bobl yn byw bywydau iachach gyda llawer llai o risg o ganser a salwch eraill sy’n newid bywyd ac sy’n bygwth bywyd.
Dim ond 48 awr ar ôl rhoi’r gorau i ysmygu, nid oes carbon monocsid na nicotin ar ôl yn eich corff ac mae’r gallu i flasu ac arogli wedi gwella’n fawr.
Ar ôl blwyddyn mae eich risg o drawiad ar y galon yn disgyn i tua hanner y risg i ysmygwr ac ar ôl 10 mlynedd mae’r risg o gael canser yr ysgyfaint yn disgyn i tua hanner y risg i ysmygwr.
Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Eleni ar Ddiwrnod Dim Smygu rydym yn myfyrio ar y niwed y mae ysmygu’n dal i’w achosi i’r rhai sy’n parhau i ysmygu a’r rhai o’u cwmpas.
“Rydym yn gweithio i wneud Hywel Dda yn ddi-fwg erbyn 2030 a dyma’r unig ardal yng Nghymru i gyrraedd y targedau cenedlaethol o drin 5% o ysmygwyr bob blwyddyn.
“Rhwng Mawrth 2022 ac Ebrill 2023, fe wnaeth ein tîm ysmygu a lles drin 1,951 o gleientiaid. Cysylltwch â’r tîm heddiw i ddarganfod pa gefnogaeth am ddim sydd ar gael i chi i’ch helpu i fyw’n ddi-fwg.”
Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ac yr hoffech wybod mwy am y cymorth am ddim sydd ar gael i chi i roi’r gorau i ysmygu, cysylltwch â Thîm Ysmygu a Lles BIP Hywel Dda drwy ffonio 0300 303 9652, e-bostio smokers.clinic@wales.nhs.uk neu drwy gwblhau ffurflen atgyfeirio ar-lein https://forms.office.com/r/XSXUggsk3b.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle