Llwyddiant ysgubol i Goleg Cambria a’i bartneriaid yn y diwydiant wrth iddynt ennill mwy o fedalau nag erioed yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni.

0
167
Skills GROUP-SHOT

Ar draws 16 categori, gwnaeth y coleg sydd â safleoedd yn Wrecsam, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi, lwyddo i gyrraedd y tri gorau 24 gwaith. Roedd hyn yn cynnwys pum medal aur, wyth medal arian ac un ar ddeg medal efydd.

Roedd y rhai a enillodd medalau aur yn cynnwys Leo Jones (Lloyd Morris Electrical Ltd – Gosod Trydan), Robert Jones (Airbus – Peirianneg Awyrennau), Dylan Rosedale-Blackwell (Glannau DyfrdwySgiliau Cynhwysol: Technoleg Cerbydau Modur), Mark Wright (International Crusher Solutions Ltd – Gwaith Metel), a Rodrigo Da Silva (IâlTechnegydd Cymorth TG).

Skills RODRIGO DASILVA

Roedd Rona Griffiths, Rheolwr Profiadau Dysgwyr a Menter yn clodfori’r dysgwyr am eu hymrwymiad i gydbwyso paratoi ar gyfer y gystadleuaeth gyda’u gwaith a’u hastudiaethau.

Dwi’n andros o falch, yn arbennig dros y rhai sydd wedi ennill medalau Sgiliau Cynhwysol, myfyrwyr Sylfaen sy’n wirioneddol wedi gwneud yn wych mewn tri chategori gwahanol,” meddai Rona.

“Bob blwyddyn rydyn ni mor falch o gael grŵp o brentisiaid a myfyrwyr medrus ac ymroddgar sy’n cynrychioli Coleg Cambria gyda balchder ac angerdd.

Ar ran y coleg a’r cyflogwyr, diolch a llongyfarchiadaumae’r canlyniadau yma, fel bob amser, yn anhygoel.”

Cafodd y cystadlaethau eu cynnal trwy gydol mis Ionawr a Chwefror, gydag arbenigwyr yn gwerthuso cyfranogwyr yn seiliedig ar safonau a meini prawf y diwydiant.

Cafodd y dathliad ei gynnal neithiwr (nos Iau) yn y Ganolfan Gynadledda Rhyngwladol yn yng Nghasnewydd, gydaphartïon gwyliorhithwir yn cael eu cynnal mewn safleoedd lloeren ar draws y wlad.

Skills LEO JONES

Eleni cafodd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru y mwyaf o ddiddordeb a chofrestriadau nag erioed, gyda dros 1,400 o gystadleuwyr ar draws 64 cystadleuaeth. Roedd dros 75 o sefydliadau gwahanol yn cael eu cynrychioli ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys colegau, cyflogwyr, a darparwyr hyfforddiant.

Rydyn ni’n andros o falch o’r holl gyfranogwyr sydd wedi arddangos eu doniau a’u sgiliau nhw,” meddai Emma Banfield, Rheolwr Prosiectau yn Ysbrydoli Sgiliau Cymru.

Roedd y seremoni yn ddigwyddiad balch iawn i ni gael dathlu eu cyflawniadau ac anrhydeddu’r ymroddiad maen nhw wedi’i ddangos i’w meysydd nhw.

Rydyn ni’n credu bod gan sgiliau y pŵer i drawsnewid bywydau a gyrru twf economaidd yng Nghymru. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn destament i’r doniau rhagorol sydd gennym ni yn ein cenedl ac rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin a chefnogi’r doniau yma ar gyfer dyfodol mwy disglair.”

Am ragor o wybodaeth am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a’r digwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i https://inspiringskills.gov.wales/skills-competition-wales neu dilynwch @ISEinWales ar Twitter neu Instagram.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle