Roedd Menter Môn wedi treialu’r dechnoleg ddi-wifr arloesol Raspberry Shake fel rhan o’r prosiect Lleoedd Clyfar Patrwm ehangach* yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, Gwynedd y llynedd.
Cafodd y synwyryddion eu creu gan yr arloeswyr datblygu meddalwedd Kodergarten a’u gosod mewn ardaloedd lleol strategol gan gynnwys yn nhrefi a phentrefi cyfagos Abersoch, Nefyn, Pwllheli, y Ffôr a Maes yr Eisteddfod.
Cyn cynhadledd Trefi Clyfar gyntaf erioed y wlad yn Wrecsam ddydd Gwener yma (15 Mawrth), mae’r canlyniadau wedi dangos cynnydd sylweddol yn y gweithgarwch ar yr adegau prysur yn ystod y digwyddiad wythnos o hyd, ac mae wedi rhoi gwybodaeth am yr ystadegau ar nifer y cerddwyr a llif y traffig mewn trefi a phentrefi o amgylch safle’r Eisteddfod.
Dywedodd cyd-sylfaenydd Kodergarten Paul Sandham fod prosesu data synhwyrydd WiFi a seismomedr – gan ddilyn rheolau GDPR – wedi dangos hyfywedd y dull hwn i helpu i ddarparu gwybodaeth sy’n fwy cywir am le.
“Drwy ddefnyddio technolegau arloesol a rhad, roeddem yn gallu cynhyrchu data mwy cywir am niferoedd ymwelwyr a oedd yn dangos faint o bobl oedd yn yr Eisteddfod ac yn y cymunedau cyfagos. Ar yr un pryd, roeddem yn gallu darparu data amser real ar lefel y traffig mewn lleoliadau allweddol a fydd, wrth symud ymlaen, yn helpu i ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer trefnwyr digwyddiadau a chymunedau cyfagos. Gwybodaeth a allai chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i adfywio stryd fawr a chanol ein trefi.”
Ychwanegodd Paul: “Roedden ni’n defnyddio microseismoleg i wneud hyn – cofnodi a phrosesu data sy’n deillio o ddirgryniadau bach yn y ddaear – roedd hyn yn caniatáu i ni gasglu data heb orfod ‘tracio’ unrhyw un ac roedd yn rhoi cipolwg a hyder go iawn am y niferoedd a gafwyd drwy synwyryddion WiFi. Roedd hwn yn brawf o’r offer rydyn ni’n gobeithio ei ddefnyddio er mwyn magu hyder yn ansawdd y data, mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud gyda’r dechnoleg hon.
“Roedd hwn yn ymarfer gwych i Menter Môn a ninnau gydweithio, ac i ni fel cwmni sy’n chwilio am fuddsoddiad yn y dyfodol mae’n dangos, drwy ddefnyddio synwyryddion seismomedr, ein bod yn gallu cynhyrchu patrymau unigryw a dilys o ymddygiad ymwelwyr, a llif traffig.”
Yn ystod y treial, roedd system Patrwm wedi prosesu ffenestr symudol 10 munud o ddata bob 30 eiliad, a oedd yn golygu bod gwybodaeth amser real ar gael i’w dadansoddi. Mae’r biblinell ddata arloesol a graddadwy hon bellach yn prosesu’r holl ddata synhwyrydd ar system Patrwm.
Roedd eu hadroddiad hefyd yn datgelu mai’r ddwy ardal fwyaf boblogaidd yn ystod yr wythnos y tu allan i’r Eisteddfod oedd y pentrefi Cymraeg Nefyn ac Aberdaron, ac nid oedd llawer o oedi yn ystod yr adegau prysur sy’n dynodi bod y trefniadau llif a rheoli traffig a roddwyd ar waith gan Gyngor Gwynedd yn gweithio’n dda, er bod llawer mwy o gerbydau.
Cafodd y prosiect Trefi Smart Towns Cymru ei lansio yn 2021 a chafodd arian gan Lywodraeth Cymru a’i gyflawni gan Menter Môn. Mae wedi hyrwyddo defnyddio technoleg a data i adfywio’r stryd fawr ar hyd a lled Cymru a hybu gwneud penderfyniadau ar sail data.
Dywedodd Kiki, Rheolwr y Prosiect: “Mae’r dechnoleg hon yn ategu’r ddarpariaeth Wi-Fi bresennol yng ngogledd orllewin Cymru, ac mae’n caniatáu ffigurau hynod gywir. Mae’n ychwanegu llawer o werth i awdurdodau lleol a chynllunwyr trefi, ac i unrhyw un sy’n dymuno casglu’r wybodaeth hon am gost fforddiadwy.
“Mae hwn yn ateb Cymreig i broblem fyd-eang, felly rydyn ni’n falch iawn fel sefydliad o fod wedi gweithio gyda Kodergarten ar y fenter hon.”
Ewch i www.mentermon.com i gael rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Menter Môn.
I gael rhagor o wybodaeth am Kodergarten, ewch i’r wefan: www.kodergarten.com.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle