Yr Urdd yn partneru gyda WWF Cymru er budd yr amgylchedd

0
238
Pentre Ifan Burial Chamber at night
Credit: www.urdd.cymru

Mae Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru’n falch o gyhoeddi partneriaeth newydd a chyffrous gyda’r elusen natur ac amgylcheddol WWF Cymru.

WWF yw un o’r elusennau cadwraeth annibynnol fwyaf yn y byd, yn gweithredu mewn bron i 100 o wledydd. Yng Nghymru maent yn gweithio ar weithredu dros a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur adref a thramor, a hynny drwy gydweithio â nifer fawr o sefydliadau.

Pobl ifanc yng Ngwersyll yr Urdd Pentre Ifan

Eleni bydd y bartneriaeth yn ddeublyg.

Diolch i gefnogaeth WWF Cymru, mae Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan yn Sir Benfro, y gwersyll amgylcheddol a lles cyntaf o’i fath yng Nghymru yn cynnig cwrs Cynaliadwyedd a Natur am ddim i bobl ifanc ym mlwyddyn 11 a 12 ddechrau Ebrill.

Mae WWF Cymru hefyd wedi cyfrannu’n hael tuag at Gronfa Cyfle i Bawb yr Urdd eleni i ariannu gwyliau haf amgylcheddol fis Awst yn y Gwersyll ym Mhentre Ifan i blant a phobl ifanc o gefndir incwm is ar draws Cymru.

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae’r Urdd wedi ymrwymo i gysylltu ieuenctid Cymru â byd natur a’u grymuso i warchod yr amgylchedd. Rydym yn hynod o falch o’r cyfle i gyd-weithio gyda WWF Cymru i gynnig cyfleoedd dysgu a datblygu i bobl ifanc Cymru yn y meysydd pwysig yma ac yn diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth i’r Gronfa ac i Wersyll Pentre Ifan.”

3. Bywyd gwyllt Sir Benfro fin nos (llun Ben Porter – WWF Cymru),

Ychwanegodd Rhian Brewster o WWF Cymru:  “Mae WWF Cymru yn falch iawn o weld datblygiad Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan a’r potensial mae’n ei gynnig i feithrin angerdd dros fyd natur mewn cenedlaethau o bobl ifanc. Mae angen i bawb weithredu os ydyn ni am adfywio ein byd a chreu dyfodol gwell.  Ein plant a’n pobl ifanc yw arweinwyr ac arloeswyr y dyfodol. Mae datblygu sgiliau ac ymwybyddiaeth o sut gallwn ni i gyd fyw a gweithredu mewn ffordd fwy cyfeillgar i natur a’r amgylchedd yn hanfodol. Ac mae gwneud hynny wrth gael hwyl a chreu ffrindiau newydd mewn gwersyll yr Urdd yn fonws!”

Bydd y cyrsiau preswyl yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc sydd â diddordeb datblygu gyrfa ym meysydd cadwraeth, amgylcheddol, cynaliadwyedd a natur gael blas ar agweddau o’r sectorau rheiny. Bydd yr amserlenni’n amrywio o sesiynau serydda a gwylltgrefft i weithdai gwastraff a ffasiwn gynaliadwy o dan arweiniad cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Cymru a Cadwch Cymru’n Daclus.

Ychwanegodd Siân Lewis: “Mae’n braf gweld gwersyll Pentre Ifan yn mynd o nerth i nerth. Mae’r gwersyll wedi croesawu cannoedd o blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru ers agor y llynedd ac mae pob ymweliad yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r Urdd hefyd yn falch o gefnogi Awr Ddaear WWF nos Sadwrn, 23 Mawrth am 8.30pm. Dyma awr ble mae pobl, cymunedau, busnesau a thirnodau yn dod at ei gilydd i ddiffodd eu goleuadau am 60 munud, i roi awr i’r Ddaear. Mae’n foment o undod sy’n dod â’r byd ynghyd, yn rhoi sylw i’r argyfwng hinsawdd a natur, ac yn ysbrydoli pobl i weithredu ac eiriol dros newid brys. Bydd gwersylloedd ac adeiladau’r Urdd yn diffodd eu golau mewn cefnogaeth.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle