Prif Wirfoddolwr St John Ambulance Cymru yn derbyn cydnabyddiaeth gan y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol ar ôl iddo achub bywyd ei gydweithiwr

0
150
Capsiwn: Prif Wirfoddolwr St John Ambulance Cymru Chief Volunteer Richard Paskell gyda Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan.

Yn ddiweddar, dyfarnwyd Tystysgrif Cymeradwyaeth i Brif Wirfoddolwr St John Ambulance Cymru gan y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol, am achub bywyd ei gydweithiwr y llynedd.

Roedd Richard J Paskell, sy’n gweithio fel Ditectif i Heddlu De Cymru, yn y gwaith pan ddioddefodd ei gydweithiwr ataliad y galon ar ôl dychwelyd o rediad. Gwysiwyd Richard i’r fan ar unwaith. Galwodd am wyliwr i ddod â’r diffibriliwr agosaf gyda nhw. Cysylltodd y diffibriliwr ar unwaith, gan ddechrau CPR.

Diolch i ymateb prydlon Richard a’r rhai eraill a oedd yno, dechreuodd eu cydweithiwr anadlu eto ac achubwyd ei fywyd.

Enwebodd Heddlu De Cymru Richard ar gyfer Cymeradwyaeth y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol, a gyflwynwyd iddo’n ddiweddar ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan.

Mae Richard wedi bod yn Brif Wirfoddolwr St John Ambulance Cymru ers 2017, ac wedi ymrwymo oriau di-ri i gefnogi’r elusen; diogelu’r cyhoedd mewn digwyddiadau, cynrychioli gwirfoddolwyr eraill ledled Cymru a lledaenu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf sy’n gallu achub bywydau.

Roedd wedi cwblhau diwrnodau hyfforddiant cymorth cyntaf amrywiol gyda’i waith ac yn ymarfer technegau cymorth cyntaf yn rheolaidd fel aelod gweithredol o St John Ambulance Cymru, felly roedd ganddo’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i weithredu’n gyflym mewn argyfwng.

“Mae’r digwyddiad hwn wir yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymorth cyntaf yn y Gadwyn Goroesi, gan brofi po gyflymaf y byddwch yn gweithredu, y mwyaf o siawns sydd gennych i achub bywyd rhywun,” esboniodd Richard.

“Adnabyddiaeth gynnar a galw am help’ – fe wnes i sylwi’n gyflym fod rhywbeth o’i le a gofyn i rywun ffonio 999.

 “‘Dadebru Cardio-Pwlmonaidd Cynnar’ – dechreuais CPR o ansawdd da ar unwaith, diolch i’r hyfforddiant a ddarparwyd gan St John Ambulance Cymru a Heddlu De Cymru.

 “‘Diffibrilio Cynnar’ – Mae ein hadeilad yn ffodus nid yn unig i gael diffibriliwr y tu mewn, ond hefyd y tu allan fel rhan o’r Cynllun Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus (PADS).

 “‘Gofal ar ôl dadebru – Ymatebodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru, a chafodd ein claf ei symud i’r ysbyty agosaf lle dderbyniodd gofal rhagorol am gyfnod o amser.”

 “Gwnaeth hyn i gyd golygu adferiad cyflym i’r claf, sydd eisoes yn ôl yn y gwaith.”

 Cenhadaeth St John Ambulance Cymru yw achub bywydau a gwella iechyd a lles cymunedau Cymru, rhywbeth sy’n agos iawn at galon Richard.

Mae’r digwyddiad yn enghraifft berffaith o pam mae hyfforddiant cymorth cyntaf mor bwysig a hoffai St John Ambulance Cymru estyn eu llongyfarchiadau i Richard am dderbyn y wobr haeddiannol hon.

I ddysgu sut i achub bywydau drwy ddod yn wirfoddolwr gydag elusen cymorth cyntaf Cymru, ewch i www.sjacymru.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle