Teulu yn codi dros £2,000 i Wasanaethau Plant Sir Benfro

0
155
Pictured above, left to right: Sarah Tingle, Health Visitor Team Leader; Rhian Hill, Health Visitor Team Leader; Samantha Barnes, Health Visitor; Joanna Griffiths, Health Visitor; Jessica Hall; Neveah Davies; Jake Davies and Laura Aldred, Assistant Practitioner.

Mae Jessica Hall a Jake Davies wedi codi £2,012 i Wasanaethau Plant Sir Benfro yn dilyn colled drasig eu babi yn 2021. 

Bu farw mab Jessica a Jake, Parker, yn wyth wythnos oed o Syndrom Marwolaeth Sydyn (SIDS). 

Penderfynodd Jess a Jake godi arian er cof am Parker mewn ymdrech i helpu teuluoedd eraill a gwneud gwahaniaeth i’w helusen GIG leol. 

Dywedodd Jessica: “Pan fu farw ein mab yn 2021, chwalwyd ein bywydau. Fel rhieni newydd, doedden ni byth yn meddwl y byddai hyn yn digwydd i’n bachgen bach hardd a gafodd ei eni 4 pwys 15 owns, dim ond pythefnos yn gynnar. 

“Penderfynodd Jake a minnau drefnu noson raffl a bingo. Cymerodd tua blwyddyn i ni gasglu llawer o roddion a gwobrau, fe wnaethom anfon e-bost at lawer o fusnesau i wneud y bingo hwn yn llwyddiant. 

“Hoffem ddiolch i’r holl fusnes lleol a gyfrannodd wobrau a thalebau, fe wnaethoch chi argraff fawr. Heb eich rhoddion, ni fyddai’r noson hon wedi bod yn llwyddiant. Hoffem hefyd ddiolch i Marks & Spencer am godi arian i ni, nid aeth eich cefnogaeth i ni fel teulu yn ddisylw. 

“Yn olaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n teulu sydd wir wedi ein cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn ac sy’n dal i’n cefnogi heddiw. Fe wnaeth ein Mamau, Julie a Wendy, ein cefnogi’n fawr drwy’r amser anodd, gan roi to uwch ein pennau pan nad oeddem yn gallu wynebu byw yn y tŷ y bu farw ein mab ynddo, diolch.” 

Dywedodd Sarah Tingle, Arweinydd Tîm Ymwelwyr Iechyd: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Jessica a’i theulu am eu hymdrechion codi arian er cof am Parker. Mae’r arian hwn wedi’i ddefnyddio i brynu doliau dadebru newydd ac i ddod o hyd i hyfforddiant ychwanegol i staff, fel y gall ymwelwyr iechyd barhau i gynnig dosbarthiadau cynnal bywyd i deuluoedd o amgylch y sir.” 

Ychwanegodd Jessica: “Roedd yn llethol iawn a daeth â deigryn i’m llygad wrth weld y doliau dadebru a gweld faint o effaith y byddant yn ei gael ar y gymuned leol. Roedd yn wych gweld yr arian yn mynd at rywbeth a fydd yn helpu teuluoedd.” 

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Sir Benfro: “Rydym eisiau dweud diolch arbennig iawn i Jessica a’i theulu am eu hymdrech codi arian anhygoel.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle