‘Gall fod yn anodd agor i fyny’: artist drill o Gymru eisiau normaleiddio sgyrsiau am emosiynau dynion

0
160
Sound x Sage Todz

Sage Todz syn siarad â Iawn am wrywdod, modelau rôl cadarnhaol a pherthnasoedd modern

Mae artist drill o Gymru wedi siarad yn agored am gymhlethdodau perthnasoedd modern fel rhan o ymgyrch Iawn Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad â’r cyflwynydd Luke Davies, mae Eretoda Ogunbanwo – sy’n defnyddio’r enw Sage Todz ar lwyfan – yn trafod perthnasoedd modern a chanfyddiadau o wrywdod yng Nghymru’r 21ain ganrif, ac yn sôn ei fod am normaleiddio sgyrsiau ar y pynciau hyn.

Lansiwyd Iawn yn 2023 fel platfform a arweinir gan y gymuned ac sy’n annog dynion ifanc i gymryd cyfrifoldeb personol ar y cyd i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.

Symudodd Sage i Wynedd o Essex yn 2007, lle dysgodd y Gymraeg. Roedd yn awyddus i fod yn rhan o ymgyrch Iawn er mwyn helpu i normaleiddio dynion yn agor i fyny am eu hemosiynau ac amgylchynnu eu hunain â phobl dda. Fodd bynnag, nid yw am ddweud wrth bobl am ei normaleiddio yn unig.

Dywedodd: “Wnes i ymwneud â’r ymgyrch [Iawn] oherwydd yn lle dweud wrth bobl am normaleiddio pethau, mae’n well jest bod yn normal am bethau. Os yw rhywun yn gweld person maen nhw’n edrych i fyny iddo yn siarad am bwnc, mae’n gallu grymuso neu alluogi nhw.”

Yn ystod ei sgwrs gyda Luke, mae’r rapiwr dwyieithog, Sage yn taflu goleuni ar yr heriau y mae dynion ifanc yn eu hwynebu wrth fynegi eu hemosiynau, gan ddweud “gall fod yn anodd bod yn agored.”

Yn tyfu i fyny yn ddyn ifanc yng Nghymru, mae Sage wedi cael ei ddylanwadu gan gymeriadau gwrywaidd cryf yn ei deulu, yn enwedig ei dad, y gweinidog Olufemi Ogunbanwo.

Wrth siarad am ei dad, dywedodd Sage: “Mae gen i blueprints da, mae fy nhad yn enghraifft enfawr o fodel rôl gwrywaidd gwych, yn bendant. Disgyblaeth. Nerth ewyllys. Cryfder cymeriad. Gonestrwydd – bydd yn ddyn o dy air, paid llechian o amgylch pethau. Mae e wedi gosod y pethau hyn ynddo fi. Bydd yn rhywun gall pobl eraill ddibynnu arno gymaint ag y gelli.”

Ochr yn ochr â dylanwad ei dad, mae Sage hefyd yn credu bod cael grŵp o ffrindiau dibynadwy yn allweddol i allu siarad.

Dywedodd: “Mae rhwystrau posibl i ddynion siarad, ond os oes gen ti grŵp o ffrindiau da ti’n gwybod y gelli ymddiried ynddyn nhw, mae’n cael gwared o’r rhwystrau hynny.

“Mae’n bwysig cael grŵp o bobl y gelli fod yn agored gyda nhw, rhannu dy emosiynau, siarad am bynciau dyfnach a teimlo dy fod yn cael dy dderbyn o fewn hynna.

“Mae llawer o wybodaeth ar gael ac ry’n ni’n fwy ‘deallusol’ [yn emosiynol] na chenedlaethau blaenorol am fod ganddon ni fynediad at lawer mwy o wybodaeth, ond mae hefyd am sut i ddefnyddio hynna.”

Ychwanegodd: “Gall fod yn anodd bod yn agored oherwydd fel dyn ifanc, dwi’n gweithio’n well gyda atebion yn hytrach na siarad. Os ydw i’n siarad am rywbeth, byddai’n well gen i gael ateb yn hytrach na siarad am sut dwi’n teimlo. Dwi’n meddwl bod llawer o ddynion ifanc yn teimlo felna a does dim lle i fynd am ateb ymarferol bob amser.”

Mae Sage yn credu bod angen ymdeimlad o gymuned a phwrpas ar ddynion ifanc i allu helpu i gyfeirio eu hemosiynau.

Mae mynd i’r gampfa a bwyta bwyd iach yn fecanwaith ymdopi pwysig ar gyfer iechyd meddwl Sage. Ond, mae’n credu y dylai dynion roi cynnig ar ddulliau gwahanol a gweld beth sy’n gweithio iddyn nhw.

Dywedodd: “Dwi’n meddwl bod llawer o ddynion ifanc eisiau ac angen pwrpas a theimlo fel rhan o gymuned. Mae’n neud gyda cyfeirio’r pwrpas yna ac agor i fyny i bobl ti’n teimlo’n ddiogel â nhw. Dwi wedi gweld clwb iechyd meddwl garddio i ddynion hŷn, a dydyn nhw ddim o reidrwydd yn siarad llawer [am eu problemau] ond yn teimlo eu bod yn gosod eu problemau ar rywbeth.

“Rhai o’r ffyrdd gorau o ymdopi wrth fynd drwy amser anodd yw mynd i’r gym, cadw’n iach a bwyta’r bwyd iawn, siarad gyda ffrindiau a therapi. Dwi wedi gwneud sesiynau cwnsela, ac mae’n gallu helpu.

“Dwi ddim yn meddwl bod yna un dull sy’n addas i bawb, gelli di roi cynnig ar wahanol bethau i weld be sy’n gweithio i ti.”

Mae sengl ddiweddaraf Sage, Gone Seen Blocked (GSB), yn ymwneud â pherthnasoedd yn yr oes fodern a sut y gallant gael eu taflu i ffwrdd yn hawdd.

Dywedodd: “Mae’n trafod perthnasoedd yn yr oes fodern a sut gallan nhw fod yn eithaf disposable. Seen – neges yn cael ei gadael wedi ei darllen, yna blocked – mae gen ti’t opsiwn o flocio rhywun o dy fywyd yn llwyr.”

Mae Sage hefyd yn archwilio’r syniad ei bod yn bwysig amgylchynu’ch hun gyda’r bobl iawn a chychwyn trafodaethau am ymddygiadau priodol er mwyn lleihau ymddygiadau problematig tuag at fenywod.

Dwi’n amgylchynu fy hun gyda phobl sy’n meddwl yr un fath a dwi’n meddwl bod sgwrs ehangach i’w chael gyda ffrindiau os nad wyt ti’n cytuno gyda’u barn nhw.

Pan ofynnwyd iddo pwy fyddai Sage yn ei ddisgrifio fel rhywun Iawn,’ dywedodd: “Dwi’n edrych i fyny at lawer o aelodau fy nheulu gan gynnwys fy nhad a fy ewythrod, maen nhw’n hogia Iawn.

Mae Iawn yn blatfform dwyieithog i ddynion ifanc syn dweud na wrth drais yn erbyn merched a menywod. Mae ganddo un nod: gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.

Dyma yw’r platfform ar gyfer gwrywdod cadarnhaol yng Nghymru. Mae’n grymuso dynion ifanc i hyrwyddo a dathlu gwrywdod cadarnhaol, i fod yn atebol i’w gilydd am eu gweithredoedd, cefnogi ei gilydd i ddod y fersiynau gorau ohonyn nhw eu hunain ac, yn ei dro, ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.

I weld fideo Sage a dilyn y sianeli Iawn am gyngor a gwybodaeth ar y pynciau dan sylw, gweler y dolenni isod:

Instagram: https://www.instagram.com/soundcymru/

TikTok: www.tiktok.com/@soundcymru

YouTube: www.youtube.com/@soundcymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle