Datganiad i’r Wasg – Lansio Arddangosfa Hau Hadau Lles yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

0
206

Mae Arddangosfa Hau Hadau Lles 10 mlynedd o bwytho creadigol gan y grŵp
gwirfoddolwyr Pwytho Botanegol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Caiff yr
arddangosfa ei lansio ddydd Gwener 3 Mai a bydd y Dr Lucy Sutherland, Cyfarwyddwr yr
Ardd, yn gosod y “pwyth olaf”.

O ddydd Sadwrn 4 Mai tan ddydd Gwener 17 Mai 2024 bydd aelodau o’r grŵp
gwirfoddolwyr Pwytho Botanegol wrth law i arwain ymwelwyr, a bydd sesiynau i rannu
sgiliau ar ddiwrnodau penodol. Bydd yr arddangosfeydd ysblennydd hyn yn cael eu
harddangos tan 5 Mehefin 2024.

Bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn gallu gweld gwaith o 15 o wahanol brosiectau gan y grŵp gwirfoddolwyr dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae corff y gwaith yn dogfennu ac yn dathlu’r casgliadau botanegol helaeth sydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac mae’n cynnwys Clytwaith y Fferyllfa Blanhigion sy’n cynnwys nodweddion fferyllol planhigion, a  Botanegau Bwytadwy, sef prosiect diweddaraf y grŵp. Yn ogystal mae gwaith y grŵp yn darlunio nifer o agweddau ar fyd natur sy’n bwysig i ethos yr Ardd, fel peillwyr, cynefinoedd naturiol ac afonydd lleol, gan gynnwys O Borneo i’ch iard gefn – casgliad o beillwyr brodorol a rhai trofannol.

Dywedodd Marilyn Caruana, aelod o’r grŵp Pwytho Botanegol,

“Mae gwirfoddolwyr o’n grŵp Pwytho Botanegol wedi bod yn rhan o brosiectau anhygoel
dros y 10 mlynedd diwethaf, ac rydym yn falch iawn o gael y cyfle i arddangos ein gwaith i’r cyhoedd dros yr wythnosau nesaf. Dyma’r tro cyntaf i’n casgliad o waith gael ei arddangos gyda’i gilydd a bydd yn ffurfio un o’r arddangosfeydd mwyaf o’i fath i’w gynnal yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.”

Mae’r arddangosfa, felly, yn gobeithio dwyn ynghyd ddwy elfen sydd o ddiddordeb i lawer o bobl ledled Cymru ar hyn o bryd: adfywio crefft draddodiadol a harddwch byd natur.

Bydd yr arddangosfa hon i’w gweld mewn amrywiol fannau yn yr Ardd Fotaneg tan 5
Mehefin.

Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfa hon ar gael yma: Arddangosfa Hau Hadau Lles | (garddfotaneg.cymru)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle